A fydd hen reilffordd yn datrys problemau parcio Glangwili?

Maes parcio ysbyty GlangwiliFfynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cynghorwyr mae hwn yn “gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir”

  • Cyhoeddwyd

Gallai problemau parcio yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin gael eu datrys, diolch i orsaf reilffordd gyfagos.

O'r wythnos nesaf ymlaen, bydd Rheilffordd Gwili yn darparu mannau parcio pwrpasol i staff yr ysbyty.

Mae parcio wedi bod yn broblem ar y safle am flynyddoedd, gyda chiwiau yn achosi tagfeydd.

Yn ôl cynghorwyr, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i ddelio â'r problemau parcio, mae'r “diwedd yn nesáu” i’r diflastod mae trigolion lleol wedi ei wynebu.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd hyd at 144 o lefydd parcio ychwanegol ar gael o fis Medi ymlaen

O'r wythnos nesaf ymlaen fe fydd 70 o lefydd parcio ychwanegol ar gael i staff sy'n gweithio yn Ysbyty Glangwili, gyda'r gobaith o gynyddu'r nifer i 144 dros y misoedd nesaf.

Yn ôl cynghorwyr sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i ddatrys y problemau parcio i staff, cleifion ac ymwelwyr, mae hwn yn “gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir”.

Dywedodd Alun Lenny, cynghorydd Gogledd a De Caerfyrddin: “O’r diwedd mae’r diwedd yn nesáu i’r diflastod i drigolion lleol, mewn stadau fel Hafod Cwnin a Nash Avenue sydd wedi gorfod dioddef parcio gwael sy’n gysylltiedig â’r ysbyty y tu allan i’w cartrefi ers blynyddoedd."

“Rwy’n mawr obeithio y bydd y tagfeydd ar Heol Bronwydd a Ffordd Abergwili nawr hefyd yn rhywbeth o’r gorffennol.

"Fel fy nghyd-gynghorwyr, ni allaf ganmol Rheilffordd Gwili ddigon am eu rhan wrth ddatrys y broblem hirwyntog hon.”

Mi fydd yna lwybr diogel i staff gerdded o’r maes parcio i’r ysbyty rhwng dydd Llun a dydd Gwener o 9 tan 5.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matt Bowen, Cadeirydd Rheilffordd Gwili ei fod yn "hyfryd i wybod bod nawr gennym ni ddatrysiad rhannol o leiaf"

Agorodd Rheilffordd Gwili yn wreiddiol yn 1860 ac roedd yn cludo teithwyr a nwyddau oedd yn cael eu cynhyrchu'n lleol fel gwlân, da byw, llaeth a phren.

Erbyn heddiw mae’n reilffordd stêm dreftadaeth sy’n cynnig teithiau i ymwelwyr er mwyn iddyn nhw ddysgu am hanes yr ardal ac mae'r atyniad yn dibynnu ar wirfoddolwyr.

Dywedodd Matt Bowen, Cadeirydd Rheilffordd Gwili: “Fel rhywun sy’n gweithio’n lleol dwi’n ymwybodol o’r broblem.

"Mae’n hyfryd i wybod bod nawr gennym ni ddatrysiad rhannol o leiaf.

"Bydd hi’n grêt i staff allu dod i gwaith heb orfod poeni am ffeindio rhywle i barcio.”

Mae Rheilffordd Gwili yn talu am y llwybr, y giât a'r goleuadau sy'n arwain at dir yr ysbyty.

Mae’r cynllun wedi ei ariannu gan grantiau a rhoddion.

Ychwanegodd Mr Bowen bod yna "elfen gymunedol i waith y rheilffordd a dyw e ddim i gyd am yr arian felly ni’n falch o allu helpu’r gymuned a’r ysbyty.”

'Gwneud parcio'n haws i gleifion'

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Nawr bod y lleoedd hyn ar gael, byddwn yn cadw’r maes parcio uchaf – sydd â 64 o leoedd – ar gyfer cleifion yn unig.”

“Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi gwelliant yn llif y traffig o flaen y safle ac yn gwneud parcio’n haws i gleifion."

Pynciau cysylltiedig