Agor gorsaf reilffordd dreftadaeth £1m yn Abergwili

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Cyffordd Abergwili
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gorsaf Cyffordd Abergwili yn agor am y tro cyntaf ddydd Sadwrn

Mae rheilffordd dreftadaeth yn agor gorsaf newydd gwerth £1m ddydd Sadwrn ger Caerfyrddin.

Bu'n rhaid codi ffordd newydd a maes parcio ar gyfer 300 o gerbydau yng ngorsaf Cyffordd Abergwili mewn ymateb i nifer cynyddol o ymwelwyr yng ngorsaf pentref Bronwydd, ychydig filltiroedd i ffwrdd - 30,000 y llynedd.

Mae'r maes parcio newydd hefyd yn datrys problemau parcio'r blynyddoedd diwethaf i staff Ysbyty Cyffredinol Glangwili, sydd ar bwys yr orsaf.

Mae yna adeiladau dros dro ar y safle hefyd ac mae'n fwriad i gynnal gwelliannau iddyn nhw ymhen amser.

Gwaith ar safle gorsaf Cyffordd Abergwili

Fe gafodd yr hen reilffordd, rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ei chau yn 1965.

Ond ers 1975 roedd ymdrechion i adfer yr hen lein a chynnal teithiau ar hyd wyth milltir a hanner o drac trwy Gwm Gwili i Lanpumsaint.

Eglurodd cadeirydd Cymdeithas Rheilffordd Gwili, Matt Bowen: "Fe ddechreuon ni redeg trenau i safle Cyffordd Abergwili yn 2017 ond tan nawr fu'n amhosib i'n teithwyr ymuno â'r trên yn y lleoliad yna.

"Mae'n nod gan y rheilffordd ers nifer o flynyddoedd i godi maes parcio newydd a mynedfa ar ben deheuol y lein sydd ar gyrion Caerfyrddin ger yr A485.

Tren yng ngorsaf Bronwydd ArmsFfynhonnell y llun, Rheilffordd Gwili
Disgrifiad o’r llun,

Does dim digon o lefydd parcio yng ngorsaf Bronwydd Arms yn ystod cyfnodau prysur

"Mae ein pwynt ymuno blaenorol, Bronwydd Arms, yn hyfryd ond roedd yna le cyfyng [ar gyfer parcio] ac roedd hynny'n broblem gynyddol yn ystod cyfnodau prysur.

"Diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr ffyddlon rydym wedi gallu codi'r arian i gwblhau'r gwaith a phenodi contractwr i'n cynorthwyo."

Mae'r trefnwyr hefyd wedi llwyddo i sicrhau sawl grant, gydag unigolion a mudiadau wedi cyfrannu i'r achos, ac mae gwirfoddolwyr wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith eu hun.

Jeremy John
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwirfoddolwyr "wedi gwnud job ardderchog", medd Jeremy John

Dywedodd gweinyddwr busnes y rheilffordd, Jeremy John: "Roedd y lle fel jyngl adeg yma'r llynedd ac mae'n rhaid talu teyrnged i'n gwirfoddolwyr ac eraill sydd wedi helpu creu'r orsaf ryfeddol yma.

"Feddyliais i erioed y byddwn i'n gweld cwblhad prosiect mor fawr. Rhaid talu teyrnged i'n gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud job ardderchog."

Mae'r gymdeithas bellach yn rhedeg dau drên stêm, gyda chefnogaeth 600 o gyfranddalwyr a 500 o aelodau yng nghymdeithas gadwraeth y rheilffordd.

Pynciau cysylltiedig