Dyn yn cyfaddef lladd dyn arall yn Llandaf noswyl Nadolig

William BushFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw William Bush ar ôl iddo gael ei ddarganfod wedi’i anafu’n ddifrifol mewn eiddo yn ardal Llandaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cyfaddef lladd dyn arall 23 oed ar noswyl Nadolig y llynedd yng Nghaerdydd.

Bu farw William Bush ar ôl iddo gael ei ddarganfod wedi’i anafu’n ddifrifol mewn eiddo yn ardal Llandaf ar 24 Rhagfyr 2023.

Fore Mercher fe wnaeth Dylan Thomas, 24, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo o Ysbyty Diogelwch Uchel Ashworth.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad. Roedd eisoes wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth.

Llandaf
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Llandaf wedi'i digwyddiad ar noswyl Nadolig 2023

Dywedodd Gregory Bull KC, ar ran yr erlyniad, nad oedd y ple yn dderbyniol i'r Goron ac y bydd yr achos yn mynd ger bron rheithgor.

Mae Dylan Thomas yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ar 12 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig