'Ni fyddai merch wedi marw heb oedi i'w gofal' - cwest

Bethan JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Bethan James ar 9 Chwefror 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi dod i'r casgliad "na fyddai merch wedi marw" heb oedi i'w gofal a thriniaeth.

Bu farw Bethan James, 21 oed o Gaerdydd - merch cyn-gricedwr Morgannwg a Lloegr Steve James - yn Chwefror 2020.

Daeth ymchwiliad post mortem i'r casgliad ei bod wedi marw o gyfuniad o sepsis, niwmonia a chlefyd Crohn.

Dywedodd y crwner, Patricia Morgan, fod "sawl achos o oedi" yn ystod ei gofal a bod hynny wedi cyfrannu tuag at ei marwolaeth.

Yn ôl rhieni Bethan, Jane a Steve James, mae casgliadau'r cwest yn "dorcalonnus" ac maen nhw bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno "rheol Martha" - sef cynllun yn Lloegr sy'n caniatáu i gleifion a theuluoedd gael yr hawl i adolygiad gofal os ydy cyflwr unigolyn yn dirywio.

Fe ganolbwyntiodd y cwest ar y cyfnod rhwng 27 Ionawr 2020 ac 8 Chwefror 2020, pan aeth Bethan James i'r ysbyty "ar sawl achlysur", a chael diagnosis o niwmonia.

Fe gafodd hi ddiagnosis o glefyd Crohn ychydig fisoedd ynghynt ac fe glywodd y llys am sut na allai hi gwblhau cwrs o wrthfiotigau - a gafodd ei roi iddi er mwyn trin y niwmonia - oherwydd sgil effeithiau fel teimlo'n sâl a chwydu.

Dywedodd y crwner fod Bethan yn "amharod i ddychwelyd i'r ysbyty" oherwydd trafodaethau blaenorol gyda staff meddygol.

Eglurodd mam Ms James yn ystod y cwest fod ei merch yn teimlo nad oedd staff wedi trin ei symptomau fel mater difrifol.

Steve a Bethan JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan James yn ferch i gyn-gapten tîm criced Morgannwg, Steve James

Wrth gyflwyno ei chasgliad, dywedodd Patricia Morgan ei bod wedi clywed "barnau gwrthgyferbyniol" ynghylch a fyddai triniaeth wahanol a chynharach wedi cael effaith.

Ond, dywedodd y crwner iddi ganfod os pe bai parafeddygon wedi asesu'r sefyllfa'n wahanol ac wedi rhybuddio staff yn yr ysbyty yn gynt, yna "byddai triniaeth gynharach wedi dechrau... ac mae'n debygol na fyddai hi wedi marw".

Eglurodd Ms Morgan fod Bethan James wedi marw "o ganlyniad i niwmonia a sepsis" a bod "sawl achos o oedi wedi cyfrannu at ei marwolaeth".

Nodwyd hefyd bod clefyd Crohn yn debygol o fod wedi cyfrannu at y farwolaeth.

'Bywyd disglair a llawn o'i blaen'

Wrth siarad y tu allan i'r llys, darllenodd bargyfreithiwr y teulu, Richard Booth KC, ddatganiad ar ran y rhieni.

"Mae'n dorcalonnus gwybod na fyddai Bethan wedi marw, pe bai wedi derbyn y driniaeth gywir," meddai.

"Yn 21 oed a newydd orffen ei gradd newyddiaduraeth, roedd gan ein Bethan dlws ni fywyd disglair a llawn o'i blaen."

Ychwanegodd y bu farw Bethan oherwydd "catalog o gamgymeriadau a allai fod wedi eu hosgoi mor hawdd trwy wrando, dealltwriaeth, cydnabyddiaeth a chamau gweithredu gwell gan staff gofal iechyd".

"Tydi sepsis ddim yn cael ei ganfod yn ddigon cyflym, ac roedd hyn yn enghraifft drasig o hynny," meddai.

Yn ymateb i alwad y teulu i gyflwyno "rheol Martha" yng Nghymru, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "sicrhau bod lleisiau cleifion a'u hannwyliaid yn cael eu clywed yn hollbwysig i ni".

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i adnabod y ffordd orau i deuluoedd leisio pryderon.

Pynciau cysylltiedig