Cwest methu penderfynu sut foddodd merch yn Florida

Bu farw Anna Beaumont ar ôl boddi mewn parc dŵr yn Florida fis Mai y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth merch o Gaerdydd wedi methu â dod i gasgliad ar sut y gwnaeth hi foddi tra ar wyliau yn yr Unol Daleithiau.
Bu farw Anna Beaumont, 13, mewn pwll ym mharc dŵr Discovery Cove yn Orlando, Florida fis Mai y llynedd.
Cafodd cwest dogfennol i'w marwolaeth ei gynnal yn Llys Crwner De Cymru ym Mhontypridd ddydd Iau.
Clywodd fod Anna yn snorcelio gyda'i thad, a oedd wedi symud at ei brawd iau.
10 munud yn ddiweddarach gwelwyd Anna yn arnofio ac yn ddiymateb, heb ei mwgwd snorcelio.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2024
Yn dilyn ymdrechion i'w hadfywio gan achubwyr bywyd ar y safle, cafodd Anna ei chludo i Ysbyty Arnold Palmer yn Orlando ond bu farw'r diwrnod canlynol ar 29 Mai.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn yr ysbyty, gyda boddi ac yna anhwylder trawiad (seizure) yn cael ei roi fel achos y farwolaeth.
Agorwyd y cwest ym mis Mehefin y llynedd oherwydd bod gan Anna hanes o epilepsi yn ystod ei phlentyndod.

Mae Discovery Cove yn cynnig cyfle i bobl nofio gyda dolffiniaid ac ymysg pysgod trofannol
Yn y cwest dogfennol ddydd Iau, dywedodd y Crwner Kerrie Burge nad oedd tystiolaeth bod Anna wedi cael trawiad ar unrhyw adeg, a daeth i'r casgliad ei bod wedi marw ar ôl cael ei throchi mewn dŵr.
"Nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau sut y daeth Anna i fod yn ddiymateb yn y dŵr," meddai.
"Wnaeth neb ei gweld hi'n cael trawiad nac yn cael trafferth, ac nid oedd unrhyw dystiolaeth feddygol o weithgarwch trawiad yn ystod ei hamser yn yr ysbyty nac yn yr archwiliad post mortem.
"Nid yw'n bosibl sefydlu, ar sail tebygolrwydd, sut aeth Anna i drafferthion yn y dŵr."
Cafodd Anna, disgybl yn Ysgol Gyfun Radur, ei disgrifio gan ei theulu wedi ei marwolaeth fel "enaid prydferth".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.