Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan lori ailgylchu

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Brookes yn Llandudno fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes oedrannus farw ar ôl cael ei tharo gan lori ailgylchu yn Llandudno.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar Stryd Brookes tua 09:00 fore Llun.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys - gan gynnwys ambiwlans awyr - fynychu'r digwyddiad, ond bu farw'r ddynes 89 oed yn y fan a'r lle.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Mewn datganiad mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau bod cerbyd ailgylchu wedi bod yn rhan o wrthdrawiad angheuol yn Llandudno fore Llun.
Ychwanegodd y datganiad bod y cyngor yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau y ddynes fu farw yn ystod y cyfnod anodd hwn a bod yr awdurdod yn cynorthwyo ymholiadau'r heddlu.