Eisteddfod: Croesawu degau o aelodau newydd i'r Orsedd

Roedd yna gymeradwyaeth wrth i Tony Thomas gael ei dderbyn fore Llun i'r Orsedd
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n ddiwrnod emosiynol i nifer fore Llun ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth i ddegau o aelodau newydd gael eu derbyn i'r Orsedd.
Yn y pafiliwn y cafodd y seremoni ei chynnal a hynny yn sgil tywydd anffafriol, ac roedd y pafiliwn yn orlawn o aelodau newydd, gorseddogion, teulu a ffrindiau.
Ymhlith y rhai a gafodd eu hurddo gan yr Archdderwydd Mererid roedd Tony Thomas o Lanybydder.
Mae wedi bod yn gweithio gyda'r Eisteddfod ers 1984 ac erbyn hyn yn Swyddog Technegol.
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024

Tony Thomas sy'n gyfrifol am osod y llythrennau mawr eiconig ar y Maes
Tony Thomas sy'n gyfrifol am osod y llythrennau mawr eiconig ar Faes yr Eisteddfod bob blwyddyn yn ogystal â nifer o nodweddion adnabyddus eraill y Maes.
Roedd yna fonllefau o gymeradwyaeth wrth iddo gael ei anrhydeddu â'r wisg las.
Mae hefyd yn gyfrifol am regalia a gwisgoedd yr Orsedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cludo a'u cadw'n ddiogel.

Y rhai a oedd yn cael eu hurddo i'r Orsedd fore Llun
Fore Llun hefyd ymhlith y rhai a oedd yn cael eu derbyn i'r wisg wen roedd enillwyr prif gystadlaethau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf - yn eu plith Gwynfor Dafydd, Carwyn Eckley, Eurgain Haf, Manon Ogwen Parry enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts a Nest Jenkins - enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn.
Meddai Nest: "Roeddwn wedi cael y wisg werdd o'r blaen ond mae cael y wisg wen yn binacl bod yn yr Orsedd.
"Mae cymaint wedi gweithio mor galed ar gyfer y seremoni ac aeth pethau mor slic."
Ychwanegodd Carwyn: "Mae'r ddau ohonon ni'n gweithio efo'n gilydd felly roedd o'n braf cael bod yn y seremoni efo Nest."

Alys Hedd Jones: "'Nes i rili joio"
Hefyd yn cael eu hurddo roedd enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Dywedodd Alys Hedd Jones, 18, enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2024: "Ges i gymaint o hwyl!
"O'n i'n disgwyl fe fod yn reit boring ond nes i rili joio. Roedd yn deimlad mor urddasol."

Mae'r ateb oes i 'A oes heddwch?' yn bwysicach nag erioed eleni, medd yr Archdderwydd Mererid
Wrth groesawu'r aelodau newydd fe wnaeth yr Archdderwydd Mererid ymbil am heddwch byd.
Wrth agor y seremoni, meddai: "Nid cwestiwn arferol yw'r cwestiwn sy'n agor ein gorsedd ni.
"Pan ddaw'r gri 'a oes heddwch', nid ateb 'oes' ac 'nac oes' sydd gyda ni, ond ymateb, a'r ymateb hwnnw'n ddyhead taer.
"Ymbil, neu yng ngeiriau Iolo, gorymbil am heddwch ydyn ni, ac eleni gyfeillion annwyl, mae'r ymbil hwnnw hyd yn oed yn fwy taer na'r arfer."

Anrhydeddu un o'r gwirfoddolwyr Keris Jones - Mrs Pagoda - fore Llun
Mae'r Eisteddfod yn falch o gydnabod cyfraniad y gwirfoddolwyr ac un arall a gafodd ei derbyn fore Llun oedd Keris Jones.
"Fyddai'r Eisteddfod ddim yn Eisteddfod heb weld Keris Jones, Llangollen wrthi'n brysur yn gwirfoddoli a stiwardio a hynny ers hanner can mlynedd," meddai'r trefnwyr.
"Mae hi'n rhan enfawr o brofiad ein cystadleuwyr a'i gofal ohonynt wrth iddyn nhw baratoi am eu rhagbrawf yn rhan hollbwysig o ethos yr ŵyl."
Mae hi hefyd yn gwirfoddoli yn eisteddfodau'r Urdd a Llangollen.
Wrth gael ei hurddo fore Llun, dywedodd: "O'dd o'n emosiynol ac yn fraint i fod yn fy milltir sgwâr yn Wrecsam gan mod i'n dod o Rosllanerchrugog yn enedigol - mae'n wych.
"Dwi'n dod o deulu cerddorol yn y Rhos - a dyna yw fy mywyd i - cerddoriaeth.
"Dwi wedi bod yn wirfoddolwr, arolygwr yn y Pagoda am flynyddoedd, ac o'n i'n cael yr enw Mrs Pagoda a nawr dwi'n gwirfoddoli yn y Stiwdio.
"Mae'n wych cael yr Eisteddfod yn Wrecsam."

Cafodd Elain Pennant ei hurddo union 40 mlynedd ers urddo ei mam, Alwen Pennant
Roedd yr Orsedd hefyd yn derbyn nifer sydd wedi graddio mewn meysydd penodol a rhai a oedd wedi llwyddo yn arholiadau'r Orsedd.
Fe gafodd Elain Gwynedd ei hurddo â'r wisg werdd am radd yn y Gymraeg.
40 mlynedd i ddydd Llun, cafodd ei mam ei hurddo - enw barddol ei mam ydi Alwen Pennant ac enw barddol Elain yw Elain Pennant.
Fore Gwener bydd degau yn rhagor yn cael eu derbyn i'r Orsedd - "yn wyneb haul - llygad goleuni" gobeithio yng Nghylch yr Orsedd ar y Maes.