Borussia Dortmund yn ymddiheuro i Gymraes am ei gwawdio ar TikTok

Roedd y gwawdio honedig "mewn modd mor greulon a chyhoeddus" meddai llefarydd ar ran Jessie Yendle
- Cyhoeddwyd
Mae un o gewri'r byd pêl-droed yn yr Almaen, Borussia Dortmund, wedi ymddiheuro i Gymraes - ar ôl i'r clwb wneud hwyl am y ffaith bod ganddi atal dweud mewn fideo a gafodd ei bostio ar eu cyfrif TikTok.
Roedd y clip yn dangos y dylanwadwr Jessie Yendle yn cael trafferth ynganu sain, cyn i'r fideo newid i drac dawns TikTok poblogaidd yn chwarae dros luniau o'r ymosodwr Serhou Guirassy.
Postiodd trefwyr y triathlon Ironman fideo tebyg a dywedodd Ms Yendle, sydd o Bontypridd, ei bod wedi cael ei "syfrdanu'n llwyr" gan y clipiau.
Mae Borussia Dortmund ac Ironman wedi ymddiheuro, gyda'r clwb yn dweud y bydden nhw'n hedfan Ms Yendle i gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Yendle ei bod wedi'i syfrdanu a'i "brifo'n fawr gan y fideos gwarthus".
Roedd y gwawdio honedig "mewn modd mor greulon a chyhoeddus" meddai'r llefarydd ac wedi peri gofid personol a siom i Ms Yendle.
"Yn drist iawn, dim ond tynnu sylw at ba mor bell sydd gennym i fynd i adeiladu cymdeithas wirioneddol gynhwysol a pharchus y mae'r negeseuon yma," meddai.
Fe wnaeth Ironman ddileu'r fideo ar ôl i feirniadaeth ar-lein ohono gynyddu, a dywedodd ei fod yn "wir ddrwg" ganddynt.
Cafodd clip Borussia Dortmund, oedd wedi ei bostio ddechrau fis Awst, ei ddileu ar ôl i'r BBC gysylltu â nhw.

Mae Borussia Dortmund yn un o'r clybiau mwyaf yn yr Almaen
Dywedodd llefarydd ar ran Borussia Dortmund "nad oedd yn fwriad gennym ni o gwbl i gywilyddio, sarhau nac ymosod ar unrhyw un".
Ychwanegon nhw ei bod hi'n "ddrwg iawn" ganddyn nhw a'u bod eisiau ymddiheuro i Ms Yendle yn bersonol - gan ei gwahodd i gêm o'i dewis yng Nghynghrair Pencampwyr, "i'w pherswadio ein bod ni yn Borussia Dortmund yn bobl dda".
Dywedodd Ironman mewn sylw ar y neges wreiddiol eu bod wedi gwneud camgymeriad.
"Dylem ni fod wedi gwneud ymchwil call, cyn neidio ar yr hyn yr oedden ni'n ei feddwl oedd yn duedd ar y cyfryngau cymdeithasol."
Dywedodd eu bod hefyd wedi cysylltu â Jessie, sy'n cael ei hadnabod ar-lein fel Mimidarlingbeauty i'w 3.5 miliwn o ddilynwyr ar TikTok.
"Fel sefydliad, rydym yn poeni'n fawr am gynhwysiant ac wedi gweithio'n agos gydag athletwyr o bob gallu," meddai Ironman.
Maen nhw wedi dweud y bydden nhw'n fwy gofalgar o hyn allan wrth wirio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.