Rhai plant yn fepio yn y dosbarth, yn ôl athrawon

Yn ôl un athro, mae'n anodd plismona e-sigarennau gan eu bod yn gallu edrych fel "lipgloss neu uwcholeuwyr"
- Cyhoeddwyd
Mae yna ddisgyblion sydd methu canolbwyntio oherwydd effeithiau nicotin a rhai plant hyd yn oed yn fepio yn y dosbarth, yn ôl athrawon.
Mewn arolwg gan undeb dysgu'r NASUWT, dywedodd mwyafrif yr aelodau wnaeth ymateb bod e-sigarennau yn parhau i fod yn broblem yn eu hysgolion.
Yn ôl canlyniadau'r arolwg, mae plant yn ymgynnull mewn toiledau i fepio yn ystod y diwrnod ysgol gyda rhai disgyblion yn gadael gwersi yn rheolaidd.
Galw am fwy o gefnogaeth i ysgolion mae'r undeb, wrth i ddeddfwriaeth newydd ar dybaco ac e-sigarennau gael ei drafod yn San Steffan.
Dywedodd Sharron Daly, athrawes ysgol uwchradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a swyddog i'r NASUWT, fod e-sigarennau yn "llawer anoddach i'w plismona" nag oedd sigaréts yn y gorffennol.

Dywedodd Sharron Daly ei bod hi wedi sut mae fepio yn gallu arwain at wrthdaro rhwng disgyblion ac athrawon
Mae plismona'r e-sigarennau yn anoddach oherwydd eu bod "wedi'u cynllunio i edrych fel lip gloss neu highlighters" ac mae disgyblion yn arogli fel gwm cnoi melys yn hytrach nag o fwg, yn ôl Sharron Daly.
"Dydy rhai plant ddim yn gallu canolbwyntio.
"Mae plant yn cyffroi oherwydd dy'n nhw ddim yn gallu cael y fix nicotin ac mae'n arwain at wrthdaro gyda athrawon", meddai Ms Daly.
Fel swyddog undeb, dywedodd bod cydweithwyr wedi dweud wrthi fod plant yn fepio yn y dosbarth weithiau - a'r enghraifft ddiweddaraf "ond ychydig wythnosau'n ôl".
"Mae'n cael effaith negyddol ar ymddygiad disgyblion, ac yn y pendraw bydd e'n cael effaith ar berfformiad disgyblion hefyd oherwydd os na allan nhw ganolbwyntio, dydyn nhw ddim yn gallu dysgu", ychwanegodd Ms Daly.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
'Mae rhieni'n prynu feps i'w plant'
O'r 477 ymateb yng Nghymru i arolwg yr NASUWT, dywedodd bron i dri chwarter eu bod yn credu bod fepio yn broblem yn eu hysgol gyda'r mwyafrif yn credu ei fod wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd rhai yn credu nad oedd polisi ymddygiad ysgolion yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'r broblem.
Dywedodd mwyafrif yr athrawon bod disgyblion yn fepio mewn toiledau, yn gadael gwersi i fepio yn ogystal â defnyddio e-sigarennau yn ystod amser egwyl.
Wrth i ddisgyblion geisio cael gwared ar yr e-sigarennau, roedd nifer hefyd wedi gweld difrod i doiledau.
Dywedodd un athro: "Mae rhieni'n prynu feps i'w plant. Mae rhai rhieni hyd yn oed yn dod i'r ysgol yn ystod y dydd i roi e-sigaret i'w plentyn".
'Canllawiau i helpu rhieni, gofalwyr ac athrawon'
Mae'r NASUWT yn galw am gyfyngiadau llymach a mwy o adnoddau i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael â'r broblem.
Fe fyddai'r Bil Tybaco a Vapes, dolen allanol, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Senedd yn San Steffan, yn helpu yn ôl llywodraeth Cymru.
Dywedodd y llywodraeth bod data'n dangos bod 7% o bobl ifanc 11 i 16 oed yng Nghymru yn defnyddio e-sigaret yn wythnosol a'r ffigur oedd 15.9% ar gyfer pobl ifanc 15 i 16 oed ym mlwyddyn 11.
Mae'n anghyfreithlon i werthu nwyddau fepio sy'n cynnwys nicotin i rywun o dan 18 oed.
Ond yn ôl y llywodraeth byddai'r ddeddfwriaeth yn tynhau cyfyngiadau ac yn rhoi pwerau i Weinidogion gyfyngu ar becynnu, blasau a ble mae'r cynnyrch yn cael ei arddangos.
"Rydyn ni wedi gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi cynhyrchu canllawiau, dolen allanol ar fepio i helpu rhieni, gofalwyr, athrawon ac eraill sy'n gweithio gyda phlant oed uwchradd yng Nghymru," meddai llefarydd.
Mae yna gamau hefyd i wahardd e-sigarennau defnydd untro, gyda'r rheolau i fod i ddod i rym ym mis Mehefin 2025.