'Plant yn gorfod gadael gwersi i fêpio' - gweinidog

Mae hi'n anghyfreithlon i werthu fêps i unrhyw un dan 18 oed, ond dydy hi ddim yn anghyfreithlon i blant eu defnyddio
- Cyhoeddwyd
Mae plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd eisoes yn gaeth i fêpio, meddai un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y gweinidog iechyd Sarah Murphy ei bod yn "wirioneddol bwysig" bod cefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n gaeth i anweddu, neu fêpio, pan ddaw'r gwaharddiad ar fêps untro yn gyfraith.
Roedd hi'n rhoi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Senedd am y ddeddfwriaeth sy'n cyflwyno'r gwaharddiad ar 1 Mehefin.
Dywedodd fod "athrawon yn dweud bod plant yn dod i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd yn gaeth i fêpio" a bod rhai plant "yn gorfod gadael gwersi ddwywaith neu dair i fêpio".
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
"Allan nhw ddim eistedd trwy eu ffug arholiadau," meddai.
Dywedodd fod rôl i'r llywodraeth ac asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gefnogi pobl ifanc sy'n gaeth i nicotin, ond dywedodd ei bod yn "ymwybodol" bod athrawon yn erbyn gwahardd disgyblion sy'n cael eu dal yn fêpio.
Mae hi'n anghyfreithlon i werthu fêps i unrhyw un dan 18 oed, ond dydy hi ddim yn anghyfreithlon i blant eu defnyddio.
Yr amcangyfrif yw bod un o bob pedwar plentyn wedi rhoi cynnig ar fêpio a 7% yn gwneud hynny'n "gyson".