Ymgyrch i gael arwydd i bentref genedigol nifer o enwogion Cymru

Cafodd Siân Phillips, Huw Llywelyn Davies a Syr Gareth Edwards eu magu yng Ngwauncaegurwen
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch ar droed i geisio cael arwydd i groesawu pobl i bentref ble mae sawl Cymro enwog wedi'u magu dros y blynyddoedd.
Mae Gwauncaegurwen yn bentref sydd wedi'i leoli 15 milltir i'r gogledd o Abertawe a ryw bum milltir i'r dwyrain o'r dref agosaf, Rhydaman.
Dyma ble fagwyd yr actores Sian Phillips, Syr Gareth Edwards a chyn Archesgob Cymru Dr Barry Morgan.
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru, Sioned Williams wedi bod yn ceisio tynnu sylw at y diffyg arwydd ac yn dadlau y dylid cael arwydd croeso.
'Dirgelwch'
Un arall o'r enwogion a fagwyd yno yw'r sylwebydd rygbi, Huw Llewelyn Davies.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru ei fod yn teimlo "fod yn bendant angen arwyddion yn y pentref".
"Y dirgelwch yw, beth sydd wedi digwydd i'r arwyddion, pan o'n i'n grwt yno roedd yna arwydd ymhob pen.
"Yn bendant mae angen arwyddion yno oherwydd mae'n bentref enwog.
"Mae pobl wedi clywed amdano fe oherwydd pobl fel Gareth (Edwards), Siân (Phillips) a Barry Morgan - felly fe ddylai fod arwyddion i bobl allu gwybod ble maen nhw," meddai.

Mae Sioned Williams AS yn credu y dylid cael arwydd i bentref Gwauncaegurwen
Mae Sioned Williams AS hefyd o'r farn y dylid ystyried rhoi arwydd sy'n tynnu sylw at bobl nodedig sydd wedi cael eu geni yng Ngwauncaegurwen ac yn dweud y gallai gwneud hynny ddenu ymwelwyr i'r ardal.
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi ysgrifennu yn ôl at Ms Williams i ddweud fod hyn yn uchel ar eu rhestr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf gyda'r cynghorwyr sir.
Mae Huw Llywelyn Davies yn amheus a ddylid troi'r pentref yn gyrchfan i dwristiaid, ond mae'n credu y byddai gosod plac ar ambell wal ble ganwyd rhai o'r bobl nodedig yn syniad da.
"Falle y buasai selogion mawr yn hoffi dod i weld ble oedd cartref pobl fel Gareth.
"O'n i'n byw lan ar hewl Coldra, ac fe symudodd teulu Gareth pan oedd y bechgyn yn ifanc i ddod lan fan honno. Felly ni oedd yno gyntaf, ond Gareth sydd wedi dod â'r enwogrwydd i'r pentref wrth gwrs.
"Ond, yn bendant mae ishe i bobl wybod ble maen nhw pan maen nhw'n cyrraedd pentref sydd ag ychydig bach o hanes iddo fe," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Ionawr