Streic y Glowyr: 'Drwg deimlad yn parhau wedi dros 40 mlynedd'

Roedd Lisa Pedrick yn flwydd oed adeg y streic yn 1984
- Cyhoeddwyd
"Pan bo' fe'n siarad am y streic, chi'n gallu gweld pa mor grac ma' fe yn dal i deimlo."
Dyna Lisa Pedrick yn sôn am deimladau ei thad, sy'n gyn-löwr o Waun Cae Gurwen.
Roedd yn un o filoedd o lowyr cymoedd y de a benderfynodd fynd ar streic ym mis Mawrth 1984.
Bu glowyr a'u teuluoedd yn brwydro i gynnal eu cymunedau a'u swyddi wrth i'r prif weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, fynd benben â'r undebau i geisio bwrw ymlaen â'i chynllun i gau pyllau.
Mae BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda rhai oedd yn byw yng nghymunedau glofaol yn ystod cyfnod Streic y Glowyr 1984.
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
Roedd Lisa Pedrick yn flwydd oed yn ystod y cyfnod ac yn cofio ei thad yn ar y llinell biced "bron bob dydd".
"Ma' dal drwg deimlad at be' ddigwyddodd er bod 40 mlynedd wedi mynd heibio."
Wrth edrych yn ôl ers y cyfnod, mae Lisa'n dweud bod yr ardal a'r pentref wedi newid yn llwyr.
"Rwy' 'di gweld newid mawr ers tua'r 90au roedd Gwaun Cae Gurwen arfer bod yn bentre' llawn siopau , tafarndai, roedd dau fanc gyda ni - ma' hwnna i gyd wedi mynd dros y blynydde dwetha'.
"Roedd y pentrefi i gyd llawn glowyr yn ennill arian da.
"Roedd mynd o gael y swyddi da hyn, i gael dim arian o gwbl am flwyddyn wedi cael effaith ar y gymuned yn gyfan achos o' nhw ddim yn gwario."
Dywedodd bod y streic wedi cael effaith ar deuluoedd a busnesau lleol hefyd.
"Ar ôl y streic, symoi'n teimlo bod y gymuned be' oedd e achos bod cymaint wedi symud bant - ma' fe wedi newid."

Mae olion y diwydiant glo dal yn amlwg ar draws cymunedau de Cymru
Roedd Dafydd Francis yn 10 oed ar y pryd, ac mae'n cytuno bod "dicter y cymunedau yn parhau".
"Doeddwn i ddim yn fabi i löwr, ond y neges oedd er nad oeddem ni yn deulu ar streic fe fydd undeb yn ein cymuned ac fe fyddwn ni yn cefnogi'r streic", meddai.
"Yn '84 yn fy mhentre' i roedd dau bwll glo. Rwy yn cofio gweld y dynion yn dod mas o'r gwaith a dal bysus nôl a mlan ac roedd bwrlwm yn y pentre'.
"Ond gyrru trwy'r pentre' nawr mae e'n dorcalonnus.
"Ni 'di colli cenhedlaeth. Ni 'di colli hunaniaeth ac ry' ni wedi colli cyfleoedd."

Dywed Dafydd bod teimladau o "ddicter" yn parhau yn y cymunedau heddiw
Ar 6 Mawrth 1984, cyhoeddodd y Bwrdd Glo eu bod yn bwriadu cau 20 o byllau glo.
Dechreuodd y diwydiant golli arian ar ddechrau'r 80au gyda nifer y glowyr yn gostwng ers degawdau - a'r ddadl oedd bod rhaid gweithredu gan eu bod yn amhroffidiol.
Byddai hynny yn golygu bod 20,000 o swyddi yn cael eu colli, a chymunedau yn y meysydd glo ar hyd a lled de Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu chwalu.
Yn ôl Dafydd, roedd cael gwared ar swyddi "pwerus iawn dros yr economi" yn "gywilyddus".
"Oherwydd hynny mae ein cymunedau ni wedi newid ac nid i'r gorau," ychwanegodd.
'Cryfder yn ysbryd cymunedol'
Cafodd y gwleidydd Adam Price ei fagu yn Rhydaman ac mae'n dweud bod y gwerthoedd gwleidyddol arweiniodd at streic y glowyr yn parhau heddiw.
Fe allai "digwyddiad cymunedol" tebyg i'r streic ddigwydd eto, meddai, ond "mae'r cyd-destun nawr wedi newid".

Mae'r diwylliant yn gryf, ond y seiliau economaidd wedi eu chwalu, yn ôl Adam Price
"Un o'r pethe sy' ar flaen fy meddwl i ar hyn o bryd wrth edrych yn fyd eang yw'r bygythiad mewn gwahanol ffyrdd a chyd-destunau o'r adain dde eithafol, sydd yn her i ddemocratiaeth.
"Odi hwn yn rhywbeth sy' wedi marw, y traddodiad yna neu allwn ni greu ar ei newydd wedd teimlad a mudiad newydd all wrthsefyll y math o dueddiadau ry' ni'n gweld yn fyd eang?"
Esboniodd mai proffwydoliaeth oedd yn ganolbwynt i'r streic, a'r ymdeimlad "os gollwn ni bydd cymunedau yn cael eu chwalu i raddau".
Dywedodd bod hynny wedi cael ei "brofi yn wir".
"O ran sefyllfa economaidd a chymdeithasol ma' hynna yn wir. Ry' ni wedi gweld y cynnydd anferth mewn anghyfartaledd.
Ond mae'n dweud bod cymunedau yn parhau i "ddal at ei gilydd oherwydd cryfder yr ysbryd cymunedol".
"Mae'r diwylliant yn gryf o hyd ond mae'r seiliau economaidd wedi eu chwalu ac mae'r gymdeithas yn gwegian oherwydd hynny."