Dim ymchwiliad ffurfiol cyn diswyddo Hannah Blythyn

Hannah BlythynFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ms Blythyn wedi bod yn weinidog partneriaeth gymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Ni chynhaliodd Llywodraeth Cymru ymchwiliad ffurfiol i sut yr aeth negeseuon testun dadleuol i’r cyfryngau cyn i Hannah Blythyn gael ei diswyddo am eu rhyddhau yn honedig, meddai uwch swyddog.

Mae Ms Blythyn wedi gwadu rhyddhau negeseuon dadleuol yn dangos Vaughan Gething yn dweud wrth weinidogion eraill ei fod yn dileu negeseuon testun o sgwrs grŵp.

Dywedodd Plaid Cymru ei bod yn "gynyddol glir" bod gweithredoedd y prif weinidog wrth ei diswyddo yn dangos "diffyg tryloywder".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cael "cyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol mewn perthynas ag ymdrin â thorri cod y gweinidogion, ac roedd yr holl gamau a gymerwyd gan y prif weinidog yn unol â’r cod a llawlyfr Cabinet y Llywodraeth.”

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: “Mae’r methiant i ddarparu tystiolaeth pam y cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo yn un o’r rhesymau pam mae llywodraeth Lafur Cymru wedi’i pharlysu ac yn methu â chanolbwyntio ar flaenoriaethau’r bobl.”

Gwrthod cyhoeddi'r dystiolaeth

Dywedodd Mr Gething ym mis Mai nad oedd ganddo "ddim dewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth" ar ôl adolygiad o'r "dystiolaeth sydd ar gael i mi".

Mae'r gwrthbleidiau wedi mynnu bod y dystiolaeth yn cael ei chyhoeddi - mae Mr Gething wedi gwrthod.

Mae llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill yn aml yn cynnal ymholiadau i geisio darganfod sut mae gwybodaeth gyfrinachol wedi cael ei rhyddhau i'r wasg.

Roedd Ms Blythyn wedi bod yn weinidog partneriaeth gymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi "gweithredu yn unol â chod y gweinidogion"

Mewn llythyr at bwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddu'r Senedd, cadarnhaodd y cyfarwyddwr moeseg David Richards "nad oes ymchwiliad i ollyngiadau wedi'i gomisiynu na'i gynnal gan Lywodraeth Cymru".

Dywedodd fod Mr Gething wedi ceisio cyngor "ac wedi'i ddarparu mewn perthynas â'r broses o ymdrin â thorri cod y gweinidogion".

Y cod yw'r set o reolau y mae disgwyl i weinidogion gadw atynt.

Ym mis Mai dywedodd Mr Gething ei fod wedi "gweithredu yn unol â chod y gweinidogion" a'i fod wedi ceisio cyngor gan yr ysgrifennydd parhaol, y gwas sifil uchaf yn y llywodraeth.

Achosodd rhyddhau'r negeseuon ffrae ar y pryd, a chododd gwleidyddion yr wrthblaid gwestiynau a oedd Mr Gething wedi camarwain yr Ymchwiliad Covid.

Roedd yn dangos i Mr Gething ddweud wrth weinidogion: “Rwy’n dileu’r negeseuon yn y grŵp hwn.

"Gallant gael eu dal mewn [cais ] Rhyddid Gwybodaeth a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud."

Galw am 'ymchwiliad annibynnol'

Gwadodd yn ddiweddarach ei fod wedi dileu negeseuon "sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau", ac awgrymodd fod y neges yn ymwneud â sylwadau gweinidogion am gydweithwyr, a sicrhau "nad ydym yn darparu pethau a allai fod yn embaras".

Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru: “Mae diswyddo gweinidog yn fater difrifol. Yn achos Hannah Blythyn mae’n gynyddol amlwg bod diffyg tryloywder yng ngweithredoedd y prif weinidog ac na roddwyd y mesurau diogelu arferol ar gyfer cyfiawnder naturiol i’r cyn weinidog.

“Heb unrhyw ymchwiliad ffurfiol i ollyngiadau ac yn absenoldeb ymchwiliad annibynnol o dan god y Gweinidogion, mae’n rhaid i ni ofyn ar ba dystiolaeth ac ar gyngor pwy oedd y prif weinidog yn gweithredu?”

Dywedodd Mr Price fod y cyn-brif weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi ymchwiliad i Dawn Bowden o dan y cod gweinidogol.

Galwodd am "ymchwiliad annibynnol", dan oruchwyliaeth yr ysgrifennydd parhaol, i benderfynu a oedd y prif weinidog "wedi gweithredu gyda'r diwydrwydd dyladwy gofynnol".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth feirniadu'r prif weinidog am awgrymu mai newyddiadurwyr sydd ar fai am ei drafferthion

Yn ystod y sesiwn fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth feirniadu Mr Gething am awgrymu mai newyddiadurwyr sydd ar fai am y ffrae dros y rhoddion a dderbyniodd ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y prif weinidog ei fod yn difaru “y ffordd y mae’r tri mis diwethaf wedi cael ei adrodd yn y wasg”.

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth, sy’n gyn-ohebydd gwleidyddol, amddiffyn newyddiadurwyr, gan ddweud mai crebwyll Mr Gething oedd yn cael ei “gwestiynu dro ar ôl tro” gan y gwrthbleidiau.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Teleri Glyn Jones

Pob wythnos, mae’n ddisgwyliedig bod pob gohebydd gwleidyddol yng Nghymru yn gwylio Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd.

O Alun Michael, i Rhodri Morgan, wedyn Carwyn Jones a Mark Drakeford, yn aml mi fyddai 'na bwt o stori newyddion yn codi o’r ddadl yn y Siambr - a bob hyn a hyn roedd cyn lleied yn digwydd roedd yn rhaid i ni grafu’n pennau yn gofyn, “be ‘di’r lein?”.

Ond ers i Vaughan Gething ddod yn brif weinidog, mae pob sesiwn cwestiynau wedi bod yn destun estyn am y popcorn!

Y ffrae ynglŷn â’r rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan gwmni sydd wedi ei erlyn am dorri rheolau amgylcheddol sydd wrth wraidd y dadlau gwleidyddol a’r sylw cyfryngau sy’n dilyn.

A heddiw hefyd, y sesiwn cwestiynu cyntaf ers iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos diwethaf - y ffrae dros ei grebwyll oedd y pwnc llosg.

Pwnc llosg a dadl danllyd, a tydi hi ddim yn edrych yn debyg bod y tân yna’n tawelu.