'Tystiolaeth' fod Hannah Blythyn wedi rhannu negeseuon
- Cyhoeddwyd
Mae aelod blaenllaw o Lywodraeth Cymru yn dweud bod y Prif Weinidog yn gywir i ddiswyddo aelod o'i gabinet yn sgil honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.
Fe wnaeth Vaughan Gething ddiswyddo'r cyn-Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, wythnos diwethaf, gan honni ei bod wedi rhannu negeseuon testun.
Mae Ms Blythyn yn gwadu'r honiad yn gryf, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan ddydd Llun ei bod yn "hapus" gyda'r diswyddiad.
Dywedodd fod "tystiolaeth" i gefnogi penderfyniad Mr Gething, ac y gallai'r negeseuon gael eu holrhain i ffôn Ms Blythyn.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am sylw i Ms Blythyn.
Dywedodd Ms Blythyn wythnos diwethaf: "Mae'r hyn sydd wedi digwydd heddiw [dydd Iau] wedi fy syfrdanu a'm tristáu'n fawr.
"Rwy'n glir, ac wedi bod yn glir, na wnes i, ac nid wyf erioed wedi, ryddhau dim."
Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Eluned Morgan bod yn rhaid cael "rhywfaint o ymddiriedaeth" o fewn y cabinet, a'i bod hi'n "hapus" gydag esboniad Mr Gething.
Gwrthododd Ms Morgan fanylu ar y dystiolaeth ei hun.
Ychwanegodd: “Fy nealltwriaeth i yw y gellir olrhain y negeseuon testun i’w ffôn.
"Mae digon o dystiolaeth i gefnogi hynny."
Ychwanegodd fod y prif weinidog wedi ei gwneud yn "gwbl glir" bod yna ffordd yn ôl i Ms Blythyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024