Mewnwr y Gweilch yn gwadu dwyn pedair oriawr ddrud
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi’r Gweilch wedi gwadu bod yn rhan o grŵp wnaeth ddwyn pedair oriawr ddrud.
Fe wnaeth y mewnwr 22 oed, Luke Davies, ymddangos yn y llys fore Llun.
Mae’n un o bum dyn sydd wedi eu cyhuddo o ddwyn gwerth £1,800 o gyfeiriad yn Llanelli ar Noswyl Nadolig 2021.
Fe blediodd y pum dyn - Luke Davies, 22, Jake Ball, 21, Jordan Ball, 24, Dominic Booth, 23, ac Adam Thomas, 24 - yn ddieuog yn Llys y Goron Abertawe.
Doedd Mr Davies ddim yn chwarae i’r Gweilch ar y pryd.
Mae disgwyl i’r achos ddechrau ym mis Tachwedd.