Afon lle cafodd pysgod marw eu darganfod 'bellach yn ddiogel'

Glannau Dyfrdwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 50 o bysgod wedi eu darganfod yn farw yn Afon Alun

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad oes angen i bobl gadw anifeiliaid draw o afon yn yr Wyddgrug, ar ôl tân a ffrwydrad mewn ffatri gemegol.

Cafodd tua 50 o bysgod eu darganfod yn farw yn afon Alun yn dilyn y tân yn ffatri Synthite ar 30 Ebrill.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw wedi bod yn cadw llygaid ar yr afon ac mae lefelau llygredd wedi "gostwng yn sylweddol".

Dywedodd llefarydd bod yr afon bellach yn "ddiogel" a bod pysgod wedi dechrau dychwelyd i'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Synthite wedi bod yn gwneud cemegion ar y safle ar Ffordd Dinbych ers yr 1950au

"Does dim angen cadw anifeiliaid draw o'r dŵr erbyn hyn," meddai llefarydd.

"Bydd sawl asiantaeth yn parhau i gadw golwg ar yr afon a'i chadw yn lân dros yr wythnosau nesaf."

Bydd staff yn parhau i gymryd samplau o'r afon yn gyson.

Ar ôl y tân ar 30 Ebrill, cafodd pobl yr ardal eu cynghori i gadw eu drysau a'u ffenestri ynghau.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r safle a dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi gyrru pedwar criw yno.