Dim llygredd yn Afon Rhymni wedi'r tân gerllaw

tanFfynhonnell y llun, Gareth Lewis Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd naw o griwiau eu galw i'r tân yn Rhymni

  • Cyhoeddwyd

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw Afon Rhymni wedi'i llygru wedi tân mawr ar y stad ddiwydiannol gerllaw nos Wener.

Dywed y Gwasanaeth Tân bod uned yn mesur 100m wrth 30m wedi'i dinistrio a bod swyddogion yn parhau ar y safle fore Sul er mwyn sicrhau fod y tân wedi diffodd yn llwyr.

Yn gynharach roedd yna rybudd ei bod hi'n bosib na fyddai dŵr yfed pobl sy'n byw ger llaw Parc Eco Capital Valley yn glir wedi'r tân.

Parc EcoFfynhonnell y llun, Richard Swingler
Disgrifiad o’r llun,

Deallir bod uned yn mesur 100m wrth 30m wedi'i dinistrio

Cafodd pobl leol hefyd eu cynghori i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau ac i osgoi mynd i mewn i Afon Rhymni er lles eu diogelwch ond bellach cafwyd cadarnhad bod dŵr yr afon yn ddiogel.

Pynciau cysylltiedig