Cyn-AS yn y llys ar gyhuddiad o feddu ar basbort ffug

Katie Wallis yn gadael Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o fod ym meddiant pasbort ffug.
Mae'n cael ei honni fod y drosedd wedi digwydd yn 2022 pan roedd Jamie Wallis, 41, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Katie Wallis, yn dal yn AS.
Does dim ple wedi ei gyflwyno eto, ac fe ddywedodd Ms Wallis wrth y llys ei bod yn bwriadu cynrychioli ei hun yn yr achos.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke bod hawl ganddi wneud hynny ac fe gafodd yr erlyniad orchymyn i ddarparu copïau caled o ddogfennau'r achos i'r diffynnydd.
Mewn ymddangosiad blaenorol, clywodd ynadon yng Nghaerdydd bod gan Ms Wallis basbort ffug "heb esgus rhesymol" yn ei meddiant ar 5 Ebrill 2022.
Ms Wallis - cynrychiolydd Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn San Steffan rhwng 2019 a 2024 - oedd yr AS cyntaf i gychwyn y broses o drawsnewid ei rhyw yn agored.
Cadarnhaodd ei bod yn cael ei nabod dan yr enw Katie Wallis "ond fy enw cyfreithiol yw Jamie Wallis", meddai wrth y llys.
Holodd y barnwr a oes tystysgrif cydnabod rhywedd ganddi, ac fe ofynnodd a ddylai'r erlyniad ystyried defnyddio'r ddau enw yn nogfennau llys.
Fe gafodd yr achos ei ohirio tan 15 Awst er mwyn i Ms Wallis gael "cyngor cychwynnol o leiaf gan gyfreithiwr".