Dim Cwpan Rygbi'r Byd i gapten Cymru Ken Owens
- Cyhoeddwyd
Ni fydd capten Cymru, Ken Owens, yn teithio i Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn yr hydref.
Dywedodd Warren Gatland nad yw'r bachwr 36 oed wedi gwella o anaf i'w gefn.
Mae rheng-ôl y Scarlets Josh Macleod a phrop Caerdydd Will Davies-King hefyd wedi cael eu rhyddhau o garfan hyfforddi Gatland oherwydd anafiadau.
Bachwr y Gweilch, Sam Parry, 31, fydd yn ymuno â'r garfan yn lle Owens.
Dywedodd Gatland ei fod yn "siomedig" i golli'r tri chwaraewr, ond fe awgrymodd y gallen nhw fod ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae Owens wedi bod yn ddewis cyntaf cyson i Gymru dros y saith mlynedd diwethaf ac fe chwaraeodd i'r Llewod yn 2017 a 2021.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae ei gyd-chwaraewyr ers blynyddoedd Justin Tipuric, Alun Wyn Jones a Rhys Webb wedi cyhoeddi eu bod yn ymddeol.
'Siomedig ond positif'
Dywedodd Warren Gatland efallai y byddai angen llawdriniaeth ar Ken Owens yn sgil yr anaf.
"Mae Ken yn siomedig ond mae'n berson anhygoel o bositif," dywedodd.
"Mae'n ystyried ei hun yn lwcus o gael 18 mis ychwanegol na fyddai'n credu y byddai'n ei gael ar ôl yr anaf diwethaf i'w gefn.
"Mae'n deall, yn ei oed ef, dyw ei gorff ddim yn adfer mor gyflym ond nawr mae gennym ni gystadleuaeth gref yn y safle hwnnw."
Bydd Gatland yn mynd â'i garfan i Fiesch yn y Swistir o 3 Gorffennaf am bythefnos.
Tra bod Macleod a Davies-King wedi'u rhyddhau, ni fydd Taulupe Faletau yn mynychu'r wythnos gyntaf oherwydd anaf i'w goes.
Fydd Alex Cuthbert ac Owen Williams ddim yn teithio oherwydd "rhesymau personol".
Dywedodd Gatland: "Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith paratoi da yn barod ac rydyn ni'n mynd i Fiesch lle ry'n ni'n edrych i gael y manteision o gysgu ar uchder a byddwn yn rhoi hwb i'n hyfforddi."
Bydd Gatland wedyn yn cwtogi niferoedd ei garfan ymhellach i 38 cyn ail wersyll hyfforddi yn Nhwrci yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.