Beth mae cymunedau eisiau gan eu Comisiynydd Heddlu?
- Cyhoeddwyd
Gydag etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHaTh) ar y gorwel, beth mae'r rheiny sy'n pleidleisio yn Llanelli eisiau gweld y rôl yn ei gyflawni?
Prif rôl y comisiynwyr yw sicrhau bod yr heddlu yn eu hardal yn diwallu anghenion y gymuned, yn ogystal â lleihau trosedd, gan ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon.
Mae hynny'n cynnwys cefnogi pobl ddigartref, delio â phroblemau cyffuriau a gweld mwy o swyddogion heddlu o amgylch yr ardal.
Bydd y CHaTh yn cael eu hethol ar 2 Mai.
Cafodd Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru ei ethol i’w ail dymor yn y swydd fel CHaTh Heddlu Dyfed-Powys yn etholiadau Mai 2021, ac mae’n ceisio cael ei ail-ethol.
Yr ymgeiswyr eraill yw Justin Griffiths ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Phillippa Thompson o’r blaid Lafur, ac Ian Harrison, ymgeisydd y Ceidwadwyr.
Galw am i'r heddlu fod yn fwy 'gweladwy'
Mae'r Parchedig David Jones o'r farn fod angen i blismyn fod "yn weladwy yn y dref", gan ychwanegu bod "gweld yr heddlu ar y stryd yn bwysig".
Ag yntau'n weinidog yng Nghapel Greenfield, mae’n rhedeg cegin gawl - soup kitchen - yn y capel pob nos Fercher.
Yn ôl Mr Jones, mae nifer y bobl sy'n defnyddio’r adnodd wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd: “Ni’n gweld tua 30 o bobl pob wythnos. Ni’n trial helpu nhw, rhoi parseli bwyd iddyn nhw a rhoi cymorth iddyn nhw.
"Dros y chwe blynedd ni wedi bod ar agor, ni wedi gweld lot mwy o bobl yn dod mewn am gymorth.”
Ychwanegodd fod "lot o droseddau yn digwydd yn yr ardal hon, yn enwedig yng nghanol Llanelli, ond fi’n credu bydd pobl gyda mwy o hyder i gerdded o gwmpas ac i deimlo’n ddiogel os maen nhw’n gweld yr heddlu yn cerdded o gwmpas, fel yr oedden nhw flynyddoedd yn ôl".
“O’m mhrofiad i, mae’r heddlu yn Llanelli yn bobl sydd eisiau helpu, a dyna beth ni angen gweld rhagor o fi’n credu.”
'Heb glywed lot o sôn am yr etholiad'
Ond yn ôl y Parchedig Jones, nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r etholiad yr wythnos nesaf.
“Fi heb glywed lot o sôn am yr etholiad," meddai.
"Mae pobl wedi cael y cardiau trwy’r drws yn dweud beth sy’n digwydd, ond eto mae cyfrifoldeb arnom ni i ddarllen y wybodaeth a gwneud penderfyniad.”
Mae Siân Thomas wedi bod yn gwirfoddoli yn y gegin ers chwe blynedd.
Hoffai hi weld yr heddlu yn delio gyda phroblemau yn ymwneud â chyffuriau yn y gymuned.
Dywedodd fod "problem gydag alcohol a chyffuriau yn y dref".
"Ni’n gweld pobl ar y stryd sydd angen cymorth, a fi'n credu dyna beth sy’n bwysig i’r heddlu i wneud yw rhoi cymorth i’r bol yna.”
Ychwanegodd nad yw'n teimlo'n ddiogel yn cerdded mewn rhai mannau yn y dref, gan ychwanegu nad yw'n cerdded ar ei phen ei hun yn aml.
"Ti’n gweld pobl sydd ar gyffuriau weithiau yn y dref, ac mae hwnna yn gallu bod yn galed i fenywod gerdded ar ben ei hun."
Wrth siarad â thrigolion y dref, pwnc sy'n cael ei godi yn aml yw digartrefedd.
Yn ôl Sara Ayres, sy’n gweithio yn y sector, hoffai hi weld yr heddlu yn ymgysylltu mwy â phobl ddigartref.
“Hoffwn i weld nhw’n gweithio gydag elusen sy’n gweithio gyda phobl ddigartref a 'neud yn siŵr bo' nhw’n saff,” meddai.
Ychwanegodd: “Hefyd hoffwn i weld nhw’n helpu pobl yn y gymuned i ddeall pobl ddigartref a ddim bod ofn ohonyn nhw.
“Maen nhw’n cael help ond gallen nhw gael mwy o help, fi’n credu.”
Yn ôl Hywel Davies, mae angen i swyddogion heddlu “dod mas o’u ceir a cherdded o gwmpas y lle”.
Dywedodd nad yw'n gweld plismyn "ambyti'r lle", ac mai yn eu ceir y maen nhw gan amlaf.
“Ni’n gweld lot o droseddau’n mynd ymlaen a ni ddim yn gallu cael gafael ar heddlu i weud dim byd wrthyn nhw," meddai.
“Ma' 'da nhw lle lan yn Dafen - lle newydd, safle newydd - ond does dim hyd yn oed cyfeiriad i weud wrtho chi lle i fynd.
“S'dim arwydd i ddweud i chi bod e yna, ac os cerwch chi 'na s'dim neb yn mynd i ateb chi.
"Chi’n gwasgu’r botwm a ma’ fe’n mynd trwyddo rywle yng Nghaerfyrddin neu rywle.
"Does neb moyn gweld chi gweud y gwir - dyna beth fi’n teimlo.”