Heddlu'n trin diflaniad dynes o Gaerdydd fel achos o lofruddiaeth

Paria VeisiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paria Veisi ei gweld ddiwethaf brynhawn Sadwrn pan adawodd ei man gwaith yn ardal Treganna, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddynes o Gaerdydd sydd ddim wedi cael ei gweld ers 12 Ebrill, bellach yn trin yr ymchwiliad i'w diflaniad fel achos o lofruddiaeth.

Cafodd Paria Veisi, o ardal Cathays y brifddinas, ei gweld ddiwethaf am 15:00 ddydd Sadwrn pan adawodd ei man gwaith yn ardal Treganna yn gyrru Mercedes GLC 200 du.

Ddydd Mercher fe gafodd dyn 41 oed a dynes 48 oed y mae Ms Veisi yn eu hadnabod eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad yn cael eu hannog i gysylltu â Thîm Troseddau Heddlu De Cymru.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, nad oes ganddo "unrhyw brawf bod Paria yn fyw ar hyn o bryd".

"Mae gennym ni ddau berson yn y ddalfa, ac ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwn," meddai.

Ychwanegodd fod canolbwynt yr ymchwiliad yn parhau ar symudiadau Paria ar ôl iddi adael ei gwaith yn ardal Treganna.

Mae gan Ms Veisi wallt hir, cyrliog, du a chafodd ei gweld ddiwethaf yn gwisgo top du dros dop coch, trowsus du, esgidiau ymarfer ac roedd yn cario bag llaw bach.

Pynciau cysylltiedig