Aur i Aled Sion Davies ym mhencampwriaethau’r byd
![Aled Sion Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/908/cpsprodpb/61c9/live/c45ff530-24ce-11ee-b71b-db0fc8c386e3.jpg)
Mae Aled Sion Davies hefyd wedi ennill tair medal aur Paralympaidd yn ystod ei yrfa
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Aled Sion Davies wedi ennill aur ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd am y pumed tro yn olynol.
Fe wnaeth Davies, oedd yn cynrychioli Prydain, arwain y gystadleuaeth taflu pwysau F63 o'r dechrau i'r diwedd ym Mharis.
Daeth ei dafliad gorau o 16.16m yn y rownd ail olaf, wrth iddo ennill y gystadleuaeth o bron i ddau fetr.
Sajad Mohammadian o Iran (14.38) ddaeth yn ail, ac Edenilson Roberto o Frasil (14.06) yn drydydd.