Amy Dowden wedi llewygu yn ystod rhaglen Strictly
- Cyhoeddwyd
Cafodd y ddawnswraig o Gymru, Amy Dowden ei chludo i'r ysbyty wedi iddi lewygu gefn llwyfan yn ystod rhaglen Strictly Come Dancing nos Sadwrn.
Cafodd ambiwlans ei alw i stiwdios Elstree yn Borehamwood ar gyrion Llundain ar ôl i Dowden, 34 o Gaerffili, gael ei tharo'n wael.
Mae hi wedi dychwelyd i'r rhaglen eleni, ar ôl colli'r gyfres ddiwethaf wedi iddi gael diagnosis canser y fron.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan fod ambiwlans wedi cael ei alw "fel mesur rhagofalus".
"Mae hi'n teimlo'n llawer gwell, ac rydyn ni eisiau diolch i deulu Strictly am eu cariad a'u pryder," meddai.
"Rydym yn gofyn i bobl barchu preifatrwydd Amy gyda materion iechyd."
Doedd Dowden ddim yn rhan o'r rhaglen ganlyniadau nos Sul am ei bod wedi cael ei chludo i'r ysbyty cyn iddi gael ei ffilmio.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad oedd hi'n rhan o'r rhaglen "o ganlyniad i amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld".
Cafodd Dowden ddiagnosis o ganser y fron cam tri yn 32 oed ym Mai 2023, wedi iddi ganfod lwmp ar ei brest ddiwrnod cyn iddi fynd ar ei mis mêl.
Er iddi golli'r gyfres y llynedd oherwydd ei salwch, mae hi wedi dychwelyd i'r gyfres yn llawn amser eleni, gan ddawnsio gydag aelod y band JLS, JB Gill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023