'Gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion ddim yn ateb i bopeth'

Dywedodd y pwyllgor fod gan bobl ifanc "berthynas gymhleth" gyda'u ffonau
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai ffonau clyfar gael eu gwahardd yn llwyr o ysgolion yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan bwyllgor y Senedd.
Dylai ysgolion gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i osod eu cyfyngiadau eu hunain, meddai'r pwyllgor deisebau.
Dywedodd y pwyllgor fod "digonedd o dystiolaeth" sy'n dangos y niwed y gall ffonau clyfar ei wneud, ond clywodd hefyd sut y gallan nhw gefnogi lles a diogelwch pobl ifanc.
Mae'n annog gweinidogion Cymru i sefydlu "cyfarwyddyd clir" er mwyn i athrawon fod yn "hyderus i osod rheolau sy'n gweithio orau" i bobl ifanc.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio gydag ysgolion "er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw bolisïau ac adnoddau er mwyn lleihau effeithiau negyddol ffonau symudol a hyrwyddo dysgu".

Fe wnaeth pwyllgor deisebau'r Senedd gynnal ymchwiliad ar ôl i dros 3,000 o bobl arwyddo deiseb yn galw am wahardd ffonau clyfar mewn ysgolion, ar wahân i achosion eithriadol.
Bu'r pwyllgor yn siarad ag athrawon, disgyblion a rhieni fel rhan o'r ymchwiliad.
Fe fu'n ystyried y gwahanol reolau sy'n cael eu dilyn gan ysgolion yng Nghymru, a'r "berthynas gymhleth" sydd gan bobl ifanc â'u ffonau.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd gwaharddiad llwyr ar ffonau clyfar yn "ateb i bopeth", a'i fod yn hytrach eisiau gweld mwy o gymorth i ysgolion osod eu cyfyngiadau eu hunain.
Yn ei adroddiad mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "osod canllawiau clir, ynghyd â fframwaith cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau, a fydd yn rhoi'r hyder i athrawon i osod y rheolau sy'n gweithio orau i'w pobl ifanc".
Mae'r pwyllgor hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru "barhau i ddilyn y dystiolaeth a ddaw o astudiaethau o effaith gosod cyfyngiadau ar ffonau clyfar yn ystod y diwrnod ysgol".

Dywedodd Carolyn Thomas nad oedd y pwyllgor yn credu bod cyfiawnhad gosod "gwaharddiad 'unffurf' ar ffonau clyfar"
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Carolyn Thomas o'r Blaid Lafur, ei fod yn bwnc "cymhleth".
"Mae'r corff cynyddol o dystiolaeth gref fod y niwed y gall ffonau clyfar ei wneud i blant yn drech na'r manteision yn destun pryder," meddai.
"Er hynny, at ei gilydd, nid ydym o'r farn bod hynny'n cyfiawnhau gosod 'gwaharddiad' unffurf ar ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru.
"Po fwyaf o dystiolaeth a glywsom, mwyaf eglur y daeth hi nad yw'r berthynas rhwng pobol ifanc a'u ffonau yn syml.
"Mae rhai plant y mae eu ffonau'n tynnu eu sylw, neu sy'n profi seiberfwlio, dibyniaeth neu orbryder drwy eu ffonau.
"I eraill, mae'n rhoi ymdeimlad o ryddhad, wrth iddynt allu rheoli cyflyrau iechyd neu deimlo'n fwy hyderus wrth gerdded i'r ysgol, gan wybod y gallant gysylltu â rhiant bob amser.
"O bryd i'w gilydd, mae deiseb yn cyrraedd sy'n dal ein sylw, ac weithiau mae pethau sy'n ymddangos yn syml iawn yn fwy cymhleth o lawer o grafu'r wyneb."

Mae Kayla Lovell yn gweld y drwg a'r da o gael ffonau clyfar mewn ysgolion
Yn Llanbed, mae pobl yn gweld y ddwy ongl o ran gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion.
Dywedodd Kayla Lovell, 25 oed o bentref Cribyn yng Ngheredigion, y dylid ystyried gwahardd disgyblion iau rhag defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol.
"Mae'n dibynnu ym mha flwyddyn mae'r plentyn," meddai.
"Os mae'r plentyn ym mlwyddyn 7, bosib na fydden nhw'n defnyddio ffôn symudol yn yr ysgol am y rhesymau iawn."
Dywedodd nad oedd plant yn cael defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol yn ei chyfnod hi fel disgybl hi ond "roedd pawb yn gwneud beth bynnag".
"Fi ar y fence. Dwi'n credu fod lot o bethau da yn dod mas o gael ffonau yn yr ysgol, ond mae lot o bethe gwael 'fyd achos ma' pawb yn byw ar social media dyddiau 'ma.
"Mae pobl yn cael eu bwlio mor wael oherwydd bod ffonau yn yr ysgol ac mae plant yn cymryd lluniau a fideos a phethau fel'na."

Ni ddylai ysgolion ganiatáu ffonau symudol mewn gwersi, meddai Lois Williams
Dywedodd Lois Williams o Gwm-ann yn Sir Gâr y dylai ffonau gael eu gwahardd "ar adegau penodol o'r dydd - does dim angen nhw mewn gwersi".
"Ond os oes ryw weithgaredd 'da'r plentyn ar ôl yr ysgol, o ran diogelwch mae angen ffôn gyda nhw."

"Mae angen rywbeth i gadw pobl yn entertained yn ystod amser cinio," meddai Lewis Jarvis-Blower
Roedd Lewis Jarvis-Blower, 23 oed o Lanwnnen yng Ngheredigion, yn cytuno bod angen gwahardd ffonau clyfar yn ystod gwersi.
"Pan o'n i yn yr ysgol oedd amser cinio yn gallu bod yn galed - does dim byd i wneud oni bai fod rhywun yn dod â phêl â nhw," meddai.
"Mae angen rywbeth i gadw pobl yn entertained yn ystod amser cinio."
Ychwanegodd: "Os fyswn i yn yr ysgol rŵan, fyswn i'n grac achos does dim byd arall i wneud yn yr egwyl - ond bydd yn well iddyn nhw os fydden nhw'n cael eu gwahardd."
'Angen canllawiau gan y llywodraeth'
Yn ymateb i'r adroddiad, dywedodd ysgrifennydd cenedlaethol undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru ei bod yn cytuno "na fyddai gwaharddiad llwyr yn gweithio".
"Mae arweinwyr ysgolion angen yr hyblygrwydd a'r gefnogaeth i ddatblygu polisi sy'n gweithio iddyn nhw er mwy cadw'r plant, staff a chymunedau'n ddiogel," meddai Laura Doel.
"Yr hyn mae arweinwyr ysgolion ei angen ydy canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar egwyddorion allweddol, a chefnogaeth gan rieni trwy weithio gydag ysgolion i annog defnydd priodol o ffonau."
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
Yn Lloegr, dyw ffonau clyfar ddim wedi'u gwahardd mewn ysgolion, ond mae Llywodraeth y DU wedi darparu canllawiau yn annog penaethiaid i atal y defnydd ohonynt.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan bron bob ysgol yng Nghymru bolisi ffonau symudol, all gynnwys eu gwahardd yn ystod gwersi neu amseroedd egwyl.
"Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw bolisïau ac adnoddau er mwyn lleihau effeithiau negyddol ffonau symudol a hyrwyddo dysgu."
Bydd adroddiad y pwyllgor deisebau hefyd yn destun dadl yn y Senedd yn ddiweddarach eleni.