Ysgol yn y gogledd yn defnyddio dyfais i reoli ffonau symudol

Disgyblion Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae athrawon yn rhybuddio bod ffonau symudol yn cael “effaith fawr" ar gynnydd disgyblion

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd yn y gogledd wedi buddsoddi mewn system newydd er mwyn ceisio rheoli’r defnydd o ffonau symudol.

Yn Ysgol Dyffryn Conwy, rhaid i ddisgyblion gloi eu ffonau mewn bag arbennig ac yna maen nhw'n gallu cael mynediad ato gan athrawon ar ddiwedd y dydd.

Yn ôl arbenigwr ar iechyd meddwl pobl ifanc, mae defnydd ffonau symudol mewn ysgolion yn "hynod niweidiol" i ddisgyblion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod" yr effaith ar addysg plant ac yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod polisïau mewn lle.

Mae Roger Beech, sy’n bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Dyffryn Conwy, yn dweud bod perthynas plant gyda ffonau symudol yn cael "effaith fawr ar eu cynnydd".

"I mi, y pryder fwyaf ydy’r perthynas sy’ ganddyn nhw efo’r ffonau symudol - dy’ nhw methu mynd hebddyn nhw," meddai.

"Ma' ganddyn nhw fath o FOMO – fear of missing out - hefo’r hysbysiadau a ma' nhw jest yn disgwyl am yr un nesaf.

"Ma’ hwnna yn amharu ar sut ma' nhw yn y gwersi, sut ma' nhw'n ymddwyn, sut ma' nhw'n canolbwyntio ac yn cael effaith mawr ar eu cynnydd bob dydd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes modd i ddisgyblion gael mynediad at eu ffonau symudol tan ddiwedd y dydd

Cyfrifoldeb ysgolion ac awdurdodau lleol yw hi i gyflwyno polisïau ffonau symudol.

Mae Ysgol Dyffryn Conwy wedi buddsoddi mewn teclyn newydd i geisio atal disgyblion rhag troi at eu ffonau.

Mae cwmni Yondr yn creu bagiau arbennig i storio ffonau yn ystod y dydd.

Ar ddechrau’r diwrnod ysgol fe fydd y disgyblion yn cloi eu ffonau yn y bag, a ni fydd gan y disgyblion fynediad i’r ddyfais nes i’w hathrawon ddefnyddio magnet arbennig i'w ddatgloi.

Yn ôl Mr Beech, fe fydd y system yma yn “rhan o’r wisg ysgol”.

“’Da ni methu stopio nhw rhag dod â ffôn symudol i’r ysgol, ond dwi’n meddwl mai hwn 'di’r ateb a ‘da ni’n deud wrth y disgyblion a’r rheini mai dyma fydd y norm."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Yondr yn creu bagiau arbennig i storio ffonau yn ystod y dydd

Mae Mr Beech hefyd yn galw am fwy o gyfarwyddyd "ar lefel uwch" i fynd i’r afael â’r broblem.

Dywedodd nad yw rheoli defnydd y teclynnau yn yr ystafell ddosbarth yn hawdd, ac y dylai Llywodraeth Cymru "gymryd cyfrifoldeb".

Ychwanegodd fod gan gwmnïau technoleg sy’n rheoli platfformau TikTok a Facebook gyfrifoldeb i ddiogelu beth mae plant yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol.

Esboniodd fod plant yn "gweld gymaint mae’n ddychrynllyd".

'Hynod niweidiol'

Yn ôl arolwg diweddaraf Ofcom - sy'n rheoleiddio diogelwch ar-lein - mae bron i dri chwarter y bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed yn dweud eu bod wedi gweld cynnwys niweidiol ar-lein.

I Dr Nia Williams, darlithydd seicoleg mewn iechyd meddwl plant a phobl ifanc ym Mhrifysgol Bangor, mae pobl yn "gaeth" i'w ffonau a'r cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd fod sgil effeithiau negyddol yn datblygu ar hunan ddelwedd a hunan barch pobl ifanc.

"Mae’r math o dechnoleg, y ffordd ma' [cwmnïau’n] marchnata yn dy annog di i ryngweithio - dydy’r seibiant yna ti angen ddim bob tro yn gallu digwydd," ychwanegodd.

Yn ôl Dr Williams, mae yna gyfrifoldeb ar gwmnïau, y llywodraeth a rhieni i fod yn fwy "llym".

"Mae'n bwysig cydnabod rhai elfennau positif ond pan mae'n dod i ffôn symudol ry’n ni’n gwybod bo' nhw’n hynod niweidiol i blant a phobl ifanc," meddai Dr Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broblem yn "gymhleth", yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, wrth Cymru Fyw fod rhaid rheoli’r broblem yn well.

“Nawr efallai yw’r cyfle i roi cefnogaeth i ysgolion, a mwy o gyfarwyddyd i ymateb i’r realiti newydd yma."

Yn ôl y Comisiynydd, nid oes un ateb i’r broblem yma, a bod angen ystyried yr amrywiaeth barn ymhlith plant a phobl ifanc.

Ond, fe aeth ymlaen hefyd i gydnabod bod "angen rhoi arweiniad cryfach".

Disgrifiad o’r llun,

Mae naw o bob deg plentyn yn berchen ar ffôn symudol erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, medd Ofcom

Mae undeb athrawon UCAC yn cydnabod bod ffonau symudol yn gallu bod o ddefnydd mewn rhai amgylchiadau trwy "gyfrannu at ddiogelwch plant".

Dywed hefyd "nad oes angen i ffonau symudol fod yn bresennol mewn ystafell ddosbarth o gwbl" a ni ddylen "fod yn weledol ar goridorau na buarthau ysgolion".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr effaith y gall technoleg a ffonau symudol ei chael ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

"Mae gan bron pob ysgol yng Nghymru bolisïau sy’n gwahardd defnyddio ffonau symudol yn ystod gwersi, ond mae yna elfen o ddisgresiwn.

"Bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddynt bolisïau yn eu lle i leihau effeithiau ffonau symudol ar les, a hybu dysgu."