Penodi Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru

Rhian Bowen-DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Bowen-Davies ei bod yn "fraint ac anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru"

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Rhian Bowen-Davies fel Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru.

Fe fydd hi'n cymryd lle Heléna Herklots, sydd wedi bod yn y rôl ers 2018, pan ddaw ei chyfnod fel comisiynydd i ben ym mis Medi.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn, a hynny yn 2008.

Mae gan y comisiynydd bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn.

Dywedodd y llywodraeth fod Ms Bowen-Davies yn "cael ei chydnabod fel cadeirydd arbenigol Adolygiadau Lladdiadau Domestig, sy'n cynnwys pobl hŷn, a hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol".

'Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth'

Dywedodd Ms Bowen-Davies ei bod yn "fraint ac anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru".

“Gan weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, rwy'n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb," meddai.

“Gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad oed-gyfeillgar.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog Vaughan Gething y bydd y comisiynydd newydd yn "dod â phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl hŷn".

“Hoffwn ddiolch hefyd i Heléna Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o'r bobl sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.”

Pynciau cysylltiedig