Heléna Herklots yw Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Heléna Herklots

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Heléna Herklots fydd Comisiynydd Pobl Hŷn nesaf Cymru.

Hi yw prif weithredwr elusen Carers UK ar hyn o bryd, ac mae ganddi dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn cefnogi ac yn gweithio gyda phobl hŷn.

Oherwydd ei gwaith yn y maes fe gafodd ei hurddo gyda CBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2017.

Wrth ddisgrifio'r "fraint ac anrhydedd" o gael y swydd fe ddywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at weithio gyda phobl ledled Cymru yn y rôl allweddol hon i ddiogelu hawliau pobl hŷn a'u hyrwyddo".

Mae wedi ei phenodi am dymor o bedair blynedd i gychwyn, ac yn dechrau ar y gwaith ym mis Awst ar gyflog o £90,000 y flwyddyn.

Llais i bobl hŷn

Prif Weinidog Cymru sydd wedi gwneud y penodiad, yn dilyn proses benodiadau cyhoeddus oedd yn cynnwys cynrychiolwyr pobl hŷn a grŵp o ACau yn cynrychioli'r gwahanol bleidiau yn y Cynulliad.

Ms Herklots yw trydydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ers i'r swydd gael ei chreu yn 2008 i fod yn llais annibynnol dros unigolion dros 60 oed yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Sarah Rochira oedd ail Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Daeth cyfnod ei rhagflaenydd, Sarah Rochira i ben yr wythnos hon wedi chwe blynedd.

Ymhlith cyfrifoldebau'r Comisiynydd mae hyrwyddo hawliau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethau yn eu herbyn, ac adolygu'r gyfraith sy'n effeithio ar eu buddiannau.

Mae swyddfa'r Comisiynydd wedi ymchwilio i nifer o faterion yn ymwneud â phobl hŷn, gan gynnwys cartrefi gofal, gwasanaethau meddygon teulu a sicrhau parch ac urddas i unigolion.

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies bod y Comisiynydd yn "gwrando ar eu barn a'u pryderon ac yn gweithredu er eu lles" gan ychwanegu ei fod yn "edrych ymlaen at weithio gyda Heléna yn ei rôl newydd".