Teyrnged teulu i ferch 'brydferth a rhyfeddol'

Sophie EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Sophie Evans mewn tŷ ar Ffordd Bigyn, Llanelli ar 5 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu menyw o Lanelli sy'n cael ei hamau o gael ei llofruddio wedi rhoi teyrnged i ferch "brydferth a rhyfeddol".

Cafwyd hyd i gorff Sophie Evans mewn tŷ ar Ffordd Bigyn ar 5 Gorffennaf.

Mae Richard Jones, 49 o'r Rhodfa ym Mhorth Tywyn, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei theulu: "Ry'n wedi torri'n calonnau wedi'n colled.

"Roedd ein Sophie ond yn 30 oed ac fe fydd yn cael ei cholli gennym i gyd.

"Mae'n merch a chwaer brydferth a rhyfeddol wedi'i chymryd oddi wrthym a bydd ein bywydau fyth yr un fath eto.

"Roedd hi'n fam gariadus i ddwy o ferched - rhai roedd hi'n eu caru â'i holl galon. Roedd hi'n chwaer ryfeddol a oedd yn graig i'n teulu.

"Roedd hi'n ddisglair ac yn ddoniol a wastad yn gwneud i ni chwerthin."

Cadarnhaodd Hedlu Dyfed-Powys fod Sophie Evans yn adnabod Mr Jones, sy'n parhau yn y ddalfa.

Fe fydd e'n ymddangos ger bron Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Dywed y llu bod eu hymchwiliad i farwolaeth Ms Evans yn parhau.

Pynciau cysylltiedig