Bwriad i gau ysgol leiaf Powys er pryderon addysg Gymraeg

Mae gan Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin 25 o ddisgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr sir wedi pleidleisio dros gau ysgol leiaf Powys, er gwaethaf galwadau i'w hachub.
Mae ymgyrchwyr dros Addysg Gymraeg yn credu y gallai Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin - sydd â 25 o blant - ddenu plant o dros y ffin yng Nghroesoswallt.
Mewn adroddiad gafodd ei drafod ddydd Gwener, roedd y mwyafrif llethol o'r sylwadau yn yr ymgynghoriad i gau'r ysgol yn erbyn y cynllun.
Ond er hynny, awgrymodd swyddogion addysg i'r cabinet fwrw ymlaen â'r broses gyfreithiol a fyddai'n gweld yr ysgol yn cau ddiwedd Awst.
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Plaid Cymru, Bryn Davies â'i frawd, y Cynghorydd Aled Davies - sy'n arweinydd grŵp y Ceidwadwyr a chynghorydd lleol Llansilin - wrthwynebu'r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Bryn Davies: "Mae gen i ddau bryder am y cynnig hwn, bydd dwy ysgol gynradd yn Nyffryn Tanat sydd o fewn dwy filltir a hanner i'w gilydd ac sy'n anodd eu cyfiawnhau yn y tymor hir.
"Ac yn ail, tra bydd pen gorllewinol y dyffryn yn cael ei wasanaethu'n dda, bydd y pen dwyreiniol yn cael ei amddifadu o ysgolion.
"Bro Cynllaith yw'r ardal ddelfrydol i wasanaethau ochr dwyreiniol o'r dyffryn ac ardal Croesoswallt lle mae galw cynyddol i blant dderbyn addysg Gymraeg."
Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Davies bod hi'n "bwysig i gadw'r ysgol fel bod addysg Gymraeg yn gallu datblygu yn yr ardal".
Dywedodd hefyd nad oedd y risg y byddai plant yn gadael yr ardal i fynd i ysgolion cynradd yn ardal Croesoswallt wedi cael sylw priodol yn y broses.
Pleidleisiodd y cabinet - sy'n cynnwys aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur - i gefnogi'r cynnig i barhau â'r broses gyfreithiol i gau'r ysgol.
Bydd cyfnod o 28 diwrnod o ymgynghori cyn i'r cabinet wneud penderfyniad terfynol.