Yr Hobyd: Cyfieithiad yn 'creu pontydd' i ddarllenwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r clasur The Hobbit gan J.R.R. Tolkien wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg am y tro cyntaf.
Adam Pearce sydd tu ôl i'r cyfieithiad, sydd yn dilyn antur yr hobyd Bilbo Baggins. Er fod y nofel ffantasi adnabyddus wedi ei chyfieithu i dros 60 o ieithoedd - gan gynnwys y Gernyweg, Lladin a iaith Hawai'i - does dim fersiwn Gymraeg wedi'i chyhoeddi, tan nawr.
Mae Rhys Morris wrth ei fodd â gwaith Tolkien, ac wedi bachu ar y cyfle i ddarllen Yr Hobyd, gan rannu rhai o'i argraffiadau gyda BBC Cymru Fyw:
Tolkien a'r Gymraeg
Pan glywais gyntaf am lyfr fyd-enwog J.R.R. Tolkien yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg fe neidiais ar y cyfle i gael copi o’r llyfr. Yn ôl fy nghydweithwyr, roedd hwn yn ddigon iddynt ystyried fy mod yn superfan Tolkien.
Dwi ddim am wrthbrofi hyn; dwi’n hoff iawn o’i waith, yn rhannol gan ei fod yn astudiaeth wych mewn i adeiladu byd ffuglennol drwy ieithoedd ffug.
Mae gwaith Tolkien wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd wahanol yn barod, gydag ef ei hun yn rhoi help llaw yn rhai ohonynt. Mae’n honni hefyd fod y llyfrau Saesneg gwreiddiol yn gyfieithiad o’r iaith Westron a grewyd ganddo ef.
Ond nid nes nawr y mae un o’i weithiau wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg.
Mae’n ffaith gyffredin bod Tolkien yn dweud fod llawer o’i ysbrydoliaeth i’w straeon wedi’u trwytho gan chwedlau a diwylliant Cymru. Roedd hefyd yn medru’r iaith yn ogystal â Chymraeg Canol.
Mae’n werth nodi hefyd bod yr iaith Elvish (Quenya/Sindarin) yn ei lyfrau, wedi’i chreu ag awgrym o ddatblygiad iaith o’r Hen Geltaidd, sef yn ein hamser ni a esblygodd i fod yn Gymraeg.
Ond mae’n bwysig cofio mai nid dim ond Cymru oedd yn ysbrydoliaeth iddo, ond llawer o hen ddiwylliannau o gwmpas Ewrop.
Fe gyfrannodd hyn i gyd i greu byd hynod ddwys sydd yn gosod cefndir cyfoethog i allu gosod unrhyw stori ynddi... a sialens i unrhyw gyfieithydd.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2021
Bilbo Baglan a Gandalff
Fel cyfieithydd medrus a chrefftus, mae’n rhaid bod mynd ati i gyfieithu unrhyw waith gan Tolkien yn brofiad brawychus, ond her a lwyddodd Adam Pearce ei chyflawni. Mae’n gyfieithiad hyfryd o un o fy hoff lyfrau.
Y cwestiwn oedd siŵr o fod ar dafod pawb cyn ei ddarllen (neu efallai dim ond fi) oedd sut aeth ati i gyfieithu’r enwau priod, hynny yw, Bilbo Baggins; Gandalf; Smaug; Thorin Oakenshield ac ati. Ac yn yr un ffordd y cyfieithodd Tolkien ei waith o Westron i Saesneg, mae Pearce wedi cadw yr un mathau o ddelweddau sy’n ysgogi’r dychymyg yn y Gymraeg: Thorin Dariandderw; Smawg; Gandalff; a Bilbo Baglan.
Roeddwn i ym Maglan yn ddiweddar ond yn anffodus heb weld unrhyw Hobyd na Hobyd-dwll yno. Ond wrth gwrs fel y gwyddoch, maent yn gallu diflannu’n “dawel ac yn gyflym pan fo pobl fawr dwl fel ti neu fi yn baglu o gwmpas yn gwneud sŵn fel eliffant”.
Ac fel rhyw rodd i gyfieithwyr y llyfrau, fe adawodd Tolkien ei Guide to the Names in The Lord of the Rings, oedd yn gosod allan etymoleg ei enwau.
Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn bositif; mae’n dangos fod y galw yn amlwg yno ar gyfer gwaith i’w gyfieithu i’r Gymraeg.
Mae Adam Pearce, y cyfieithydd a pherchennog Melin Bapur, hefyd wedi troi at addasu The Time Machine gan H.G. Wells i’r Gymraeg yn ogystal â chyfieithu clasuron Cymraeg i’r Saesneg.
Teimlad rhyfedd yw darllen llyfr rwyf wedi ei brofi mewn iaith arall, yn enwedig llyfr mor boblogaidd; ac mae’n codi cwestiynau ynglŷn â rhesymeg cyfieithu llyfrau sydd yn gampweithiau yn eu hiaith eu hun.
Ond wrth ddarllen yn y ddwy iaith mae elfennau gwahanol o’r stori yn dod i’r amlwg. Enghraifft wych o hyn yw pan fo Bilbo a’r Corachod yn dod ar draws dri trol yn coginio dafad. Mae’r troliaid yn cyfathrebu mewn tafodiaith gogleddol (cofiwch dim fi gyfieithodd hwn!), tra bod gweddill y llyfr mewn Gymraeg cyffredin.
Mae’r gwahaniaeth yma yn y patrwm siarad ond yn medru cael ei brofi drwy’r Gymraeg. Yn yr un ffordd yn y gwreiddiol, ble mae’r troliaid yn siarad yn dafodieithol, mae’n codi teimladau all ond gael ei brofi gan siaradwr Saesneg.
Cyfieithiad yn 'bont wych'
Yn gywilyddus rwy’n cyfaddef fod y rhan helaeth o fy narllen drwy gyfrwng y Saesneg, ac er fod llenyddiaeth Gymraeg wedi fod yn bwysig yn fy magwraeth, nid yw’n gyffredin yn fy mywyd dydd i ddydd.
Ond dwi wir yn credu fod cyfieithiadau fel hyn yn gallu bod yn bont wych mewn i lenyddiaeth gyfoethog a llewyrchus Cymraeg.
Felly, edrychaf ymlaen i forio mewn i’r byd yma, a pharhau i fwynhau llenyddiaeth yn fy mamiaith.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2024