Disgwyl i Neuadd Dewi Sant fod ar gau tan 2026

Neuadd Dewi SantFfynhonnell y llun, Ted Peskett
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Neuadd Dewi Sant fod ar gau tan 2026

  • Cyhoeddwyd

Gallai un o leoliadau cyngherddau mwyaf Cymru fod ar gau am fisoedd yn hirach na'r disgwyl.

Cafodd Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ei chau ym mis Medi 2023 ar ôl canfod concrit diffygiol RAAC yno.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i brif leoliad cerddoriaeth glasurol y ddinas - sydd angen to newydd - aros ar gau tan 2025.

Fodd bynnag, nid yw caniatâd adeilad rhestredig - sydd ei angen cyn y gellir gwneud unrhyw waith - wedi’i sicrhau eto, ac efallai na fydd y neuadd yn ailagor tan 2026.

Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Caerdydd, gofynnodd arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, Rodney Berman, am ddiweddariad ar y gwaith yn y neuadd.

Dywedodd Jennifer Burke, aelod cabinet y cyngor dros ddiwylliant, fod rhestru’r adeilad wedi “ymestyn y broses yn sylweddol”.

Dywedodd mai'r disgwyl yw y gallai'r gwaith gymryd 18 mis i'w gwblhau unwaith y bydd pob caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau.

Fe wnaeth archwiliad yn y neuadd y llynedd ganfod bod angen newid y to yn gyfan gwbl oherwydd cyflwr y paneli yn y nenfwd.

Daeth arbenigwyr i edrych ar y neuadd ar ôl i ganllawiau iechyd a diogelwch newid ar RAAC.

Mae'r deunydd yn fath o goncrit ysgafn sy'n gallu dymchwel yn sydyn wrth iddo heneiddio.