Neuadd Dewi Sant ynghau tan 2025 ac angen to newydd

Neuadd Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Mae awgrym y gallai'r ganolfan gerddorol fod ynghau am tua 18 mis tra bo to newydd yn cael ei osod

  • Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd gael to hollol newydd wedi i arbenigwyr rybuddio y gallai ddymchwel.

Mae archwilwyr wedi bod yn asesu'r adeilad wedi i goncrit RAAC gael ei ganfod yn y to.

Mae bellach wedi dod i'r amlwg fod rhai o'r paneli yn y nenfwd wedi'u dynodi fel rhai "risg uchel", ac mewn perygl o ddymchwel.

Mae adroddiad gan Gyngor Caerdydd ar y gwaith asesu yn awgrymu y gallai'r ganolfan gerddorol fod ynghau am tua 18 mis tra bo to newydd yn cael ei osod, a gwaith adnewyddu'n cael ei wneud.

Yn gynharach ddydd Mercher dywedodd arweinydd y cyngor Huw Thomas y gallai'r gwaith o adnewyddu'r neuadd gyhoeddus gostio degau o filiynau o bunnoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd Dewi Sant yn cael ei chyfri'n neuadd gyngerdd genedlaethol i Gymru

Er y datblygiadau diweddaraf, mae cwmni Academy Music Group (AMG) wedi dweud wrth y cyngor ei fod yn parhau i obeithio buddsoddi yn Neuadd Dewi Sant, gyda'r bwriad o gymryd rheolaeth ohono gan Gyngor Caerdydd yn y dyfodol.

Dywedodd y cyngor nad oedd pryderon wedi'u codi am gyflwr y concrit yn yr adeilad tan yr asesiad diweddaraf, oedd yn fwy manwl.

Ychwanegodd llefarydd fod yr arbenigwyr wedi awgrymu "cadw'r safle ar gau tan fod AMG yn gosod to newydd".

Targed AMG ydy ailagor Neuadd Dewi Sant ar gyfer cystadleuaeth nesaf Canwr y Byd Caerdydd ym mis Gorffennaf 2025.

Dywedodd Cyngor Caerdydd: "Ry'n ni'n gwybod y bydd hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom i'n cwsmeriaid, ond ry'n ni'n gobeithio y byddan nhw'n deall mai diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb ar y safle sydd bwysicaf."