Apêl heddlu ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn farw ar ffordd yr A465

heddlu
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei ganfod yn farw ar ffordd yr A465 rhwng Rhymni a Dowlais yn gynnar fore Sadwrn.

Dywed yr heddlu iddyn nhw dderbyn adroddiadau bod beic cwad wedi troi drosodd ar y ffordd i gyfeiriad y gorllewin am 04:50.

Wedi iddyn nhw a pharafeddygon gyrraedd canfuwyd y dyn yn farw wrth ymyl y beic.

Byddai plismyn sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn hoffi siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd yr A465 rhwng Rhymni a Dowlais rhwng 01:30 a 16:50.

Yn gynharach ddydd Sadwrn cyhoeddwyd bod gwaith yr A465 - ffordd Blaenau'r Cymoedd - wedi dod i ben.

Pynciau cysylltiedig