Howard Marks: pwy oedd y dyn tu ôl i 'Mr Nice'?

Howard Marks a'i lyfr Mr NiceFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ei hunangofiant Mr Nice ei droi'n ffilm yn 2010

  • Cyhoeddwyd

Mae Howard Marks yn enwog am fod yn un o gyflenwyr canabis mwyaf toreithiog yr 1980au ond pwy oedd y dyn tu ôl i 'Mr Nice'?

Mewn rhaglen ddogfen newydd, Hunting Mr Nice, mae’r cyn-smlygwr, awdur a’r ymgyrchydd yn cael ei gofio fel seren roc ond hefyd yn berson oedd ag obsesiwn gyda'i hun.

'Person egsotig'

Ffynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures Ltd/James Incledon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lynn Barber, awdur a ffrind i Howard Marks yn ei gofio fel dyn “egsotig”.

Cafodd Howard Marks ei eni ym Mynydd Cynffig ger Pen-y-bont yn 1945.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Garw, ym Mhontycymer, cyn mynd ymlaen i Goleg Balliol, Prifysgol Rhydychen, i astudio ffiseg.

Mae Lynn Barber, awdur a ffrind o Rydychen yn ei gofio fel person “egsotig”.

"Roedd yn aml yn gofyn i ferched fynd i'r gwely gyda fe", meddai.

Dywedodd hefyd roedd ganddo gyffuriau arno bob amser.

"Ar y dechrau roedd yn cael ei weld fel rhyw fath o gymeriad Robin Hood oedd yn helpu pobl i gael canabis," meddai.

"Roedd yn edrych fel person egsotig, yn gymeriad egsotig iawn."

"Roedd yn gwybod sut i fanteisio ar gyfleodd ond sai'n credu roedd ganddo gynllun mawr o gwbl."

'Smyglo cyffuriau wedi newid ei fywyd'

Mewn cyfweliad archif sy’n cael ei ddatgelu gan y rhaglen ddogfen, mae Marks yn esbonio sut ddechreuodd smyglo canabis.

Tra'n astudio yn y coleg, bu'n arbrofi â'r cyffur canabis, cyn dechrau gwerthu'r sylwedd ymysg ei gyfoedion.

"Dechreuais ddelio, prynu a gwerthu, i ddechrau dim ond er mwyn gallu fforddio cael digon i ysmygu, a oedd yn eithaf cyffredin ymhlith myfyrwyr," meddai.

"Mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl."

Ugain mlynedd ar ôl gadael Rhydychen roedd Marks yn arwain gweithrediad smyglo cyffuriau rhyngwladol o'i gartref yn Palma, Mallorca, lle’r oedd yn byw gyda’i wraig a’i dri o blant.

Erbyn canol yr 80au roedd yn mewnforio miloedd o dunelli o ganabis i'r DU a’r UDA.

Ffynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures Ltd/James Incledon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Craig Lovato wedi teulio blynyddoedd yn ceisio dal Howard Marks am droseddau smyglo

Roedd Craig Lovato yn gweithio i'r Weinyddiaeth Rheoli Cyffuriau ac yn benderfynol o'i ddal.

Daeth Marks i'w sylw yn 1973 pan lwyddodd i smyglo cyffuriau i'r Unol Daleithiau tu fewn i seiniau bandiau roc Prydain ar deithiau.

Ym 1981 cafwyd yn ddieuog i gyhuddiadau cyffuriau ar ôl dweud wrth reithgor ei fod yn asiant MI5 yn ysbïo ar smyglwyr cyffuriau yr IRA.

"Roedd gen i obsesiwn gyda dal fe a chwalu ei sefydliad,” meddai Craig Lovato wrth y rhaglen ddogfen.

"Roedd Marks yn teimlo fel bod neb yn gallu cyffwrdd ag e.

"Roedd yn arbennig o glyfar - roedd ganddo sefydliad byd-eang lle buodd yn gwyngalchu miliynau o ddoleri, llongau, awyrennau a llongau tanfor, heb unrhyw waith papur.”

'Y peth gwaethaf a ddigwyddodd i mi'

Ffynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures Ltd/James Incledon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gerry Wills yn gyfrifol am drefniadau cludo'r canabis

Yn ôl Gerry Wills, a dreuliodd chwe blynedd mewn carchar yn America am ei rôl yn trefnu cludo’r canabis, roedd gan Marks “sgil o ddod a phobl at ei gilydd”.

Dywedodd mai Marks oedd “y Cymro gorau wnes i erioed ei gyfarfod."

Ond i Roger Reeves, a dreuliodd 33 mlynedd yn y carchar am droseddau cyffuriau, Marks oedd y "peth gwaethaf a ddigwyddodd erioed" iddo.

"Doedd Howard ddim yn poeni. Roedd e'n meddwl ei fod e'n fwy clyfar na phawb arall."

Cafodd Marks ei arestio ym 1988 yn Sbaen ar gyhuddiadau masnachu cyn cael ei cael ei ganfod yn euog gan yr awdurdodau gwrth-gyffuriau Americanaidd a'i garcharu am 25 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures Ltd/James Incledon
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2016, bu farw Marks o ganser yn 70 oed

Cafodd ei ryddhau ar barol yn gynnar, a hynny yn Ebrill 1995 oherwydd ei waith yn cefnogi ac addysgu carcharorion oedd yn wynebu'r system gyfiawnder yn America.

Yna dechreuodd ei yrfa fel awdur ac ymgyrchydd dros gyfreithloni canabis.

Dechreuodd drwy ysgrifennu ei atgofion, Mr Nice, a chafodd ei addasu i ffilm.

Roedd yn aml yn teithio’r wlad lle buodd yn adrodd straeon am smyglo cyffuriau a'i amser yn y carchar.

Cafodd rôl mewn sioeau teledu fel Never Mind the Buzzcocks, a chyfnod yn cyd-weithio gyda’r grŵp Super Furry Animals.

Ond i'w ffrind Marty, doedd Howard Marks "ddim yn ddyn drwg.

"Roedd yn mwynhau ysmygu ac fe aeth allan o law," meddai.

"Roedd e'n junkie, doedd e methu rhoi'r gorau i ddelio."

Yn 2016, bu farw Marks o ganser yn 70 oed.

Fe fydd y rhaglen Hunting Mr Nice yn cael ei ddarlledu ar 21 Tachwedd ar BBC One.

Pynciau cysylltiedig