Diswyddo prif hyfforddwr Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae clwb Morgannwg wedi diswyddo eu prif hyfforddwr, Grant Bradburn, yn dilyn cyhuddiad diweddar o gamymddwyn gan y rheolydd criced annibynnol.
Fe wnaeth y clwb gyfeirio Bradburn at y corff annibynnol ar ôl iddyn nhw dderbyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Dywedon nhw eu bod yn "hyderus fod proses teg a chlir wedi ei dilyn yn yr achos hwn".
Dywedodd Morgannwg fod ganddyn nhw "bolisi dim goddefgarwch tuag at ymddygiad o wahaniaethu o unrhyw fath".
Wedi iddyn nhw gwblhau ymchwiliad mewnol, dywedodd Morgannwg nad yw safle Bradburn yn gynaliadwy bellach, ac mae'r clwb yn darparu'r cymorth priodol i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio.
Cafodd Bradburn ei benodi fel prif hyfforddwr Morgannwg ar gytundeb tair blynedd ym mis Ionawr 2024.
Cyn hynny, Bradburn oedd prif hyfforddwr Yr Alban rhwng 2014-2018.