Yr oedi cyn codi gorsaf reilffordd newydd Caerdydd yn 'sarhad'

gorsaf ParcfforddFfynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn fwriad yn wreiddiol i'r orsaf a pharc busnes agor yn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae oedi Llywodraeth Cymru wrth ystyried cynlluniau i godi gorsaf reilffordd newydd yng Nghaerdydd yn "anesboniadwy" ac "yn un na ellir ei amddiffyn", yn ôl arweinydd cyngor Llafur y brifddinas.

Rhoddodd Cyngor Caerdydd ganiatâd cynllunio ar gyfer gorsaf Parcffordd Caerdydd a'r parc busnes gerllaw ym mis Ebrill 2022, a chafodd y penderfyniad ei alw i mewn i'w adolygu gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, dywedodd arweinydd y cyngor Huw Thomas fod y gymuned leol mewn "limbo" a bod yr oedi yn portreadu Cymru mewn "golau hynod o anffafriol i ddarpar fuddsoddwyr".

Dywedodd y llywodraeth bod yr ymgynghori yn parhau ynghylch y datblygiad, bod angen cyflwyno ymatebion erbyn 15 Ionawr, ac y bydd penderfyniad terfynol yn dilyn cyfnod o asesu'r ymatebion.

Ffynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd

Byddai Parcffordd Caerdydd yn dod â gorsaf ar y brif reilffordd i ardal Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd, gyda datblygwyr hefyd yn cynnig adeiladu parc busnes.

Roedd ymgyrchwyr wedi herio maint y parc busnes, gan honni y gallai hyn beryglu bioamrywiaeth.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan Gyngor Caerdydd yng ngwanwyn 2022 cyn cael eu galw i mewn gan weinidogion yn yr hydref.

Pan ofynnwyd am yr oedi yn y Senedd ar 10 Rhagfyr 2024, dolen allanol, cytunodd y Prif Weinidog fod y cais "wedi cymryd llawer gormod o amser" a'i bod yn gobeithio gwneud penderfyniad "yn yr wythnosau nesaf".

Ond mae cais pellach gan adran gynllunio'r llywodraeth i geisio sicrwydd am adeiladu'r orsaf yn golygu bod y penderfyniad terfynol wedi'i ohirio eto.

Disgrifiad o’r llun,

Mae oedi Llywodraeth Cymru yn "portreadu Cymru mewn goleuni eithriadol o anffafriol i ddarpar fuddsoddwyr," medd Huw Thomas

Yn ei lythyr at y Prif Weinidog, a adroddwyd gyntaf gan BusinessLive, dywedodd Huw Thomas: "Mae'r oedi o bron i dair blynedd y mae'r prosiect hwn wedi'i ddioddef mor anesboniadwy ag y mae'n anamddiffynadwy.

"Mae'n sarhad i'r broses leol o wneud penderfyniadau; mae wedi gadael cymuned dlawd ac ymylol mewn limbo; mae'n mynd yn groes i uchelgeisiau i dyfu'r economi, ac mae'n portreadu Cymru mewn goleuni eithriadol o anffafriol i ddarpar fuddsoddwyr.

"Mae gennych chi gyfle hanesyddol i unioni'r cam hwn ac i osod cyfeiriad newydd sy'n feiddgar ac uchelgeisiol. Byddwn yn eich annog i fachu ar y foment."

Fe wnaeth hefyd annog Ms Morgan i gyhoeddi ei phenderfyniad cyn diwedd Ionawr, a galwodd ar i'r prosiect fod yn "flaen a chanol" yr uwchgynhadledd fuddsoddi sy'n cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni.

'Agosáu at ddiwedd y broses'

Mae Cardiff Parkway Developments, sy'n goruchwylio'r prosiect, yn gobeithio adeiladu gorsaf reilffordd pedwar platfform a pharc busnes.

Mae eu cytundeb gwreiddiol gyda Chyngor Caerdydd yn golygu bod yn rhaid adeiladu'r orsaf reilffordd yn ystod cam cyntaf y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, mae tîm cynllunio Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrwydd pellach bod hyn yn parhau i fod yn wir.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfran leiafrifol yn y fenter, gyda'r corff hefyd dan reolaeth cwmni Investec a'r teulu Roberts.

Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd y teulu Roberts eu bod yn disgwyl i'r gofyniad cynllunio diweddaraf fod yn "syml", gyda phapurau i fod i gael eu ffeilio erbyn 15 Ionawr.

"Rydyn ni'n gobeithio bod hyn yn golygu ein bod ni'n agosáu at ddiwedd y broses galw-i-mewn hir, ac yn gallu symud ymlaen i'r camau nesaf o baratoi ar gyfer cyflawni."