Llyncdwll 'wedi'i achosi gan dirlithriadau Storm Bert'
- Cyhoeddwyd
Tirlithriadau yn sgil Storm Bert wnaeth achosi i lyncdwll agor yng nghanol stad o dai ger Merthyr Tudful dros y penwythnos, yn ôl arweinydd y cyngor sir.
Mae trigolion ystâd Nant Morlais ym mhentref Pant - sy'n cynnwys tua 30 o dai - wedi gorfod gadael eu cartrefi am y tro wedi i ffos gwympo gan greu twll mawr.
Mae'r stad, sy'n ffordd bengaead (cul-de-sac), wedi ei chau ac mae yna gyngor i bobl osgoi'r ardal.
Yn ôl arweinydd Cyngor Merthyr Tudful Brent Carter, nid yw hi'n glir pryd y bydd modd i drigolion ddychwelyd i'w cartrefi ar hyn o bryd.
Dywed Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael gwybod am y sefyllfa fore Sul.
Yn ôl Mr Carter, y gred yw dod y broblem wedi'i achosi gan ddau dirlithriad a ddigwyddodd yn sgil Storm Bert.
“Gyda’r storm, mae’r dŵr wedi dod yn syth i lawr drwy’r twnnel ac mae hynny wedi achosi’r cwymp ddydd Sul.
“Mae’n ymddangos y gallai wedi digwydd ddydd Sul diwethaf yn ystod Storm Bert," meddai.
“Clywodd cwpl o drigolion glec uchel. Yn anffodus, ni chafodd ei adrodd, felly nad oedden ni'n gallu gweithredu'n syth, ond mae'n edrych yn debyg mai dyna achosodd y cwymp, pan ddaeth popeth i lawr o'r mynydd a llifo trwy'r ffos."
Dywedodd Mr Carter fod y twll yn "sylweddol" a'n mesur "tua 30 i 40 troedfedd o ddyfnder a phum metr o led".
Eglurodd fod rhai o'r bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn aros gyda theulu neu ffrindiau, tra bod y gweddill wedi'u symud gan y cyngor i westai lleol, meddai.
Roedd cau'r stad yn benderfyniad "anodd", meddai, ond fod y trigolion "yn deall bod rhaid iddynt symud am resymau diogelwch".
Nid oes amserlen ar gyfer pryd fydd y stad yn ailagor oherwydd mae'r gwaith sydd angen ei wneud "yn dibynnu ar bryd y gallwn atal y dŵr rhag dod i lawr a chau'r ffos ei hun," meddai Mr Carter.
“Unwaith y bydd hynny wedi’i wneud, gallwn siarad â’r cwmnïau ynni a dŵr i weld a allwn gael rhyw fath o gyflenwad i rai o’r cartrefi."
Ychwanegodd: “Fe fyddwn ni’n gwneud bob dim o fewn ein gallu i sicrhau nad yw’r math yma o beth yn digwydd eto.
“Mae’r ffos yn cael ei wirio bob dwy flynedd. Mae hyn wedi digwydd gan fod Storm Bert wedi golchi popeth i lawr gyda chymaint o ffyrnigrwydd, mae wedi achosi difrod strwythurol i’r bwa a dyna sydd wedi achosi’r cwymp”.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024