Y prif weinidog yn addo hybu economi Cymru mewn uwch-gynhadledd

Llun o Eluned Morgan yn agor yr Uwch-gynhadledd Fuddsoddi gyntaf yng NghasnewyddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yn annerch Uwch-gynhadledd Fuddsoddi gyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi dweud ei bod yn barod i danio'r economi gyda chymorth buddsoddwyr ar draws y byd sydd wedi ymgasglu yng Nghasnewydd.

Roedd Eluned Morgan yn siarad wrth iddi agor Uwch-gynhadledd Fuddsoddi gyntaf Cymru.

Mae'r digwyddiad wedi denu cynrychiolwyr o rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynnwys y gwneuthurwr microsglodion Nvidia a Vodafone.

Ond dywedodd y gwrthbleidiau fod y llywodraeth eisoes wedi cael digon o amser i ddenu buddsoddwyr a thyfu'r economi.

Mae Llafur Cymru yn wynebu etholiad Senedd ymhen pum mis, a'r posiblrwydd yw y bydd y blaid yn colli grym yng Nghymru am y tro cyntaf os na fydd Llafur yn ennill.

Ym mis Hydref eleni collodd Llafur is-etholiad Caerffili i Blaid Cymru.

Yn ei hanerchiad agoriadol dywedodd y prif weinidog fod y cyhoeddiadau diweddar gan San Steffan am atomfa newydd yn Wylfa, a pharthau twf AI yn y gogledd a'r de, yn adlewyrchu "partneriaeth cenhedloedd".

Gan gyfeirio at ei hamser yn gweithio yn y sector preifat, dywedodd Ms Morgan ei bod am ei gwneud yn haws i wneud busnes yng Nghymru.

Dywedodd ei bod "wedi herio fy nhîm i sicrhau mai ni fydd y genedl gyflymaf yn y DU lle gallwch chi gael caniatâd cynllunio".

Erbyn hyn mae gan Gymru "yr holl flociau adeiladu" yn eu lle, meddai, ac mae'n barod i dyfu yn gyflym, yn enwedig mewn sectorau newydd.

Ychwanegodd y prif weinidog: "Rydym eisiau twf, ond rydym eisiau twf â phwrpas... twf sy'n creu swyddi da, twf sy'n adeiladu cyfleoedd ym mhob rhan o Gymru."

Ymhlith y cyhoeddiadau a wnaed ar drothwy'r uwch-gynhadledd roedd buddsoddiad o £10bn gan y darparwr canolfan ddata Vantage, a fydd yn cael ei rannu ar draws de Cymru gan gynnwys yn hen ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y Canghellor Rachel Reeves yn gweld manteision swyddi AI yng NghymruFfynhonnell y llun, PA Media

Roedd y Canghellor Rachel Reeves ymhlith y rhai a fynychodd yr uwch-gynhadledd.

"Heb amheuaeth bydd buddsoddwyr a busnesau sydd yma heddiw yn gweld manteision buddsoddi yng Nghymru, boed hynny mewn AI a thechnoleg, mewn lled-ddargludyddion, mewn ynni niwclear neu mewn ynni glân a'r diwydiannau diwylliannol," meddai.

Pan ofynnwyd iddi a fyddai'r arian sy'n cael ei wario ar ddatblygu AI yn arwain at bobl yn colli eu swyddi, dywedodd y Canghellor fod buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial yn "sicrhau swyddi ac yn helpu i gefnogi economi Cymru".

Dywedodd hefyd y byddai cynlluniau ar gyfer parth twf AI yn y gogledd yn dod â mwy o swyddi na'r 3,000 a amcangyfrifwyd ar gyfer y cynlluniau niwclear yn Wylfa.

"Yn yr un ffordd y cafodd y Chwyldro Diwydiannol diwethaf ei bweru gan Gymru, rwy'n benderfynol bod Cymru'n chwarae rôl yn yr un newydd hwn," ychwanegodd.

Dywedodd ysgrifennydd busnes San Steffan, Peter Kyle, fod y cyhoeddiad diweddar am barthau twf AI yn brawf o "ymrwymiad llywodraeth y DU i Gymru".

Dywedodd wrth yr uwch-gynhadledd y bydd y parthau "yn sicrhau bod y wlad hon yn parhau i arwain technoleg a fydd yn diffinio nid yn unig y degawd nesaf, ond y ganrif nesaf hefyd".

Ddydd Sul dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio wrth y BBC fod Cymru wedi denu £4.5bn o fewnfuddsoddiad ers cyhoeddi'r uwch-gynhadledd.

Dywedodd Plaid Cymru fod cyhoeddiadau o'r fath yn dod yn "rhy hwyr yn y dydd".

Yn ôl y Ceidwadwyr treth is a llai o fiwrocratiaeth fyddai'n denu buddsoddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig