Teyrnged teulu i 'enaid fwyn' fu farw ar gylchfan ger yr A55

Bu farw Jon Nunez yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei feic modur a char Range Rover dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai dyn lleol fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger un o gylchfannau'r A55 yn Sir Conwy dros y penwythnos.
Roedd Jon Nunez yn 50 oed ac o Landrillo-yn-Rhos.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gylchfan y Black Cat yn ardal Cyffordd Llandudno am ychydig wedi 11:30 ddydd Sadwrn, 6 Medi.
Bu farw Mr Nunez yn y fan a'r lle yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei feic modur Suzuki gwyn a char Range Rover du.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchfan y Black Cat ger yr A55 yng Nghyffordd Llandudno
Mewn datganiad yn rhoi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Dim rhan o'n bywydau yn unig oedd Jon - roedd yn gwella ein bywydau.
"Roedd yn enaid fwyn, yn wych am wrando, yn amddiffyn ei deulu a'i ffrindiau yn gryf, a'r person cyntaf y buasech yn ei alw pe bai angen chwerthin neu help llaw.
"Roedd awch Jon am fywyd yn heintus ac mi wnawn ni gofio am byth y llawenydd a ddaeth i'r byd.
"Fe wnawn ni gofio ei chwerthiniad, haelioni, ei wên a'r atgofion di-ri y rhoddodd i ni."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth a lluniau dash cam fel rhan o'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl