Cadarnhau lleoliad maes Eisteddfod Wrecsam 2025
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad mai yn ardal Is-y-coed y bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal yn 2025.
Bydd y safle tir amaethyddol ger ystad ddiwydiannol y ddinas yn gartref i holl brif ddigwyddiadau’r brifwyl fis Awst nesaf.
Roedd rhai wedi mynegi rhwystredigaeth nad oedd union leoliad yr ŵyl wedi ei gyhoeddi yn gynharach.
Mae’r trefnwyr yn dweud y bydd y safle’n faes braf ac yn gyfleus i deithwyr o bob cyfeiriad.
Mae'r lleoliad gwledig rhyw bum milltir o ganol y ddinas ar ffordd y B5130 i’r dwyrain o’r ystad ddiwydiannol.
Bydd y Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B i gyd ar y caeau rheiny.
Dywedodd Llinos Roberts, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol bod 'na lawer o drafodaethau wedi bod wrth ganfod lleoliad addas.
"Mae 'na nifer o drefniadau oedd angen cael eu gwneud, siarad efo'r ffermwr yn lleol yn fan hyn," meddai.
"Mae angen 150 o aceri o dir. Oedden ni isio tir ar gyfer y Maes, y maes carafanau, Maes B - bob dim efo’i gilydd mewn gwirionedd y tro yma.
"Ac felly mae o wedi cymryd dipyn o amser. Ond yn amlwg mae 'na naw mis a hanner i fynd felly digon o amser i drefnu a digon amser i baratoi."
Yn gartref i tua 300 o gwmnïau, mae rhyw 10,000 o bobl yn gweithio ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, sydd ymhlith y mwyaf yn Ewrop yn ôl y cyngor sir.
Yn ôl Llinos Roberts, mae lleoliad y safle yn Is-y-coed yn cynnig cyfle da i’r Brifwyl.
"Mae 'na botensial anferthol. Mae 'na nifer o gwmnïau mawr ar y stad ddiwydiannol yma ac mae’r 'Steddfod yn mynd i fod ar stepen eu drws nhw.
"'Dan ni wedi dechrau trafod efo rhai ohonyn nhw’n barod ac yn amlwg maen nhw’n gefnogol ac yn arbennig o falch."
Dywedodd Ms Roberts mai un o’r heriau fydd sicrhau bod y digwyddiad yn 2025 "mor wyrdd" ag Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.
Bydd trafodaethau’n digwydd gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i sicrhau trafnidiaeth addas, meddai.
Un o’r partneriaid hynny fydd Cyngor Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, pencampwr y Gymraeg ar yr awdurdod lleol, y bydd trafodaethau trafnidiaeth yn dechau yn yr wythnosau nesaf.
"Dwi'n edrych ymlaen i groesawu'r byd i Wrecsam eto," meddai.
"Mae'r Eisteddfod yn bwysig iawn i'r ddinas, i'r economi ac i’r cais Dinas Diwylliant 2029 achos bydd y panel beirniadu yn ymweld â'r Eisteddfod.
"Dwi’n gobeithio fydd yr Eisteddfod yn llwyddiannus. Mae'n bwysig i'r iaith Gymraeg, mae’n bwysig i bobl lleol fwynhau'r experience."
Daeth cyhoeddi lleoliad y safle wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol hysbysebu ar gyfer tair swydd newydd, yn cynnwys Cyfarwyddwr Technegol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2024
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023