Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth dyn ifanc ym Mhen Llŷn

Roger Peter BrenninkmeyerFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Roger Brenninkmeyer yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 60 oed wedi cael ei garcharu am achosi marwolaeth dyn ifanc mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn yn 2022.

Bu farw Droy Darrock-York, 20 oed o ardal Nefyn, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar y B4354 rhwng Nefyn a'r Ffôr ar 4 Mehefin 2022.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher fod Roger Peter Brenninkmeyer o Gilgwri wedi gyrru ar gyflymder o hyd at 109mya ar lôn gefn ym Mhentre-uchaf ar y diwrnod dan sylw.

Cafodd Brenninkmeyer ei ddedfrydu i chwe blynedd ac wyth mis dan glo ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.

Cafodd Droy Darrock-York ei fagu ym Morfa Nefyn.

Dywedodd ei deulu wedi'r farwolaeth ei fod yn ddyn "hapus a gweithgar" oedd bob amser "â gwên hyfryd ar ei wyneb".

"Roedd pawb yn yr ardal yn ei adnabod, ac mi oedd o'n mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau a'i deulu, ac roedd pob tro gwên hyfryd ar ei wyneb," meddai ei deulu.

Dywedodd tafarn Yr Heliwr yn Nefyn, ble roedd Droy yn gweithio, ei fod yn "ddoeth tu hwnt ei flynyddoedd".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Droy ei ddisgrifio gan ei deulu fel "dyn ifanc, parod ei wên"

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar y B4354 ychydig cyn 13:30 ddydd Sadwrn, 4 Mehefin 2022.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd fod Brenninkmeyer wedi colli rheolaeth o'i BMW X3, a bod y cerbyd wedi gadael y ffordd gan daro'r Ford Fusion oedd yn cael ei yrru gan Droy.

Bu farw Droy Darroch-York yn y fan a'r lle.

Cafodd Brenninkmeyer ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad hefyd, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Stoke lle bu'n derbyn triniaeth am rai wythnosau.

Fe blediodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Medi.

Yn ogystal â threulio chwe blynedd ac wyth mis yn y carchar, mae Brenninkmeyer wedi ei wahardd rhag gyrru am 11 mlynedd a bydd gofyn iddo wneud prawf estynedig ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y groesffordd rhwng Fron a Phentre-uchaf

Dywedodd Gareth Rogers, oedd yn rhan o ymchwiliad Heddlu'r Gogledd i'r gwrthdrawiad, ei fod yn ddigwyddiad "trasig" wnaeth arwain at "farwolaeth ddiangen".

"Mae'r digwyddiad yma yn ein hatgoffa ni gyd o'r hyn sy'n gallu digwydd wrth i bobl yrru mewn modd peryglus," meddai.

"Byddai wedi bod modd osgoi'r farwolaeth yma yn hawdd, a dim ond lwc oedd hi na chafodd mwy o bobl eu lladd y diwrnod hwnnw o ganlyniad i weithredoedd diofal Brenninkmeyer.

"Er ei fod bellach dan glo, nid oes unrhyw beth all ddod a Droy yn ôl, ac rydyn ni'n parhau i gydymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau."