Cyflwynydd Radio Cymru'n dathlu 70 drwy seiclo 450km yn Seland Newydd

Fe wnaeth Richard gwblhau'r daith gyda'i ffrind a chyn-cydweithiwr Alun Protheroe. Ffynhonnell y llun, Richard Rees
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Richard gwblhau'r daith gyda'i ffrind a chyn-cydweithiwr Alun Protheroe

  • Cyhoeddwyd

Mae cyflwynydd Radio Cymru wedi cwblhau taith seiclo 450km dros bum diwrnod yn Seland Newydd i nodi ei ben-blwydd yn 70 oed.

Fe wnaeth Richard Rees, ynghyd â'i ffrind a chyn-gydweithiwr yn y BBC, Alun Protheroe, gwblhau'r Tour of New Zealand ddechrau Ebrill.

Dywedodd Richard fod y daith wedi bod yn "her hynod o braf i'w gwneud", a'i fod wedi profi harddwch arbennig tirwedd Ynys y De.

Mae Richard, sy'n gwirfoddoli hefyd i Dîm Achub Mynydd Aberhonddu, wedi codi dros £1,400 ar gyfer y tîm achub mynydd, sy'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

'Rhyfeddol o bert'

Mae'r Tour of New Zealand yn daith feicio flynyddol sy'n cael ei chynnal ar arfordir gorllewinol Ynys y De.

Rhwng 7 ac 11 Ebrill 2025, fe wnaeth dros 160 o feicwyr gwblhau chwe chymal dros bum diwrnod, gyda phob cymal yn mesur tua 85 km ar gyfartaledd.

Mae'r daith 450km wedi'i rhannu'n chwe cymal, gyda darnau byr o yrru rhwng pob un

Ffynhonnell y llun, Google

Mae'r daith yn dechrau yn Greymouth ac yn gorffen yn y Crown Range, sydd 1,076 metr uwchben lefel y môr.

"Roedd yn her hynod o braf i wneud, trwy lwc 'oedd y tywydd yn dda ond cafon ni un diwrnod o law, ond roedd yr holl beth yn bleserus dros ben.

"Ro'n i wedi bod ar Ynys y Gogledd yn Seland Newydd o'r blaen, ond erioed ar Ynys y De. Mae Ynys y De'n hollol wahanol - mae'n brofiad arbennig iawn, a dweud y gwir.

"Mae 'na olygfeydd ffantastig – mae'r ynys yn eithaf unigryw mewn ffordd, ac yn eithaf gwyllt.

"Mae'r ochr orllewinol yn hollol wahanol i'r ochr ddwyreiniol: lot fawr o fynyddoedd, fath o goedwigoedd glaw, arfordir a thraethau anhygoel, a llynoedd glas, clir - rhyfeddol o bert."

Llyn Wānaka oedd dechrau'r cymal olaf Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llyn Wānaka oedd dechrau'r cymal olaf

Bu'r ddau yn wynebu dringfeydd serth a golygfeydd dramatig ar Ynys y De.

"Roedd y llwybr wedi'i gynllunio i fod yn amrywiol – doedd dim llawer ohono'n fflat. Roedd yna gwpl o ddiwrnodau lle'r oedd y dringo'n serth iawn."

"Ar y diwrnod olaf, roedd rhaid dringo i fyny'r Crown Range – felly dros 40km roedd angen codi 800m, ac roedd 300m o'r dringo hynny yn yr 1.5km olaf. Roedd yn wirioneddol serth!"

Dringo tuag at Crown Range Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dringo tuag at Crown Range

Dywedodd Richard fod cwrdd â'r seiclwyr eraill yn "uchafbwynt arall" i'r daith.

"Rydyn ni wedi gwneud cwpl o ffrindiau gwirioneddol dda mas yna, ac rydyn ni nawr yn cadw mewn cysylltiad â nhw trwy Strava ac Instagram."

Richard ac Alun yn cwrdd â rhai o'r seiclwyr eraillFfynhonnell y llun, Richard Rees
Disgrifiad o’r llun,

Richard ac Alun yn cwrdd â rhai o'r seiclwyr eraill

Roedd yn rhaid i'r pâr hyfforddi ar gyfer y daith yng Nghymru trwy dywydd "gwlyb ac oer".

Bum wythnos cyn y daith, cafodd Richard anaf i'w gefn, a bu hynny'n effeithio ar yr hyfforddiant.

"Yn anffodus oherwydd yr amseriad roeddwn i'n hyfforddi trwy'r gaeaf, dan amodau gwlyb, oer, ac yn anffodus pum wythnos cyn i ni fynd, nes i niwed i nghefn. Fethais i hyfforddi dim am bum wythnos, a cafodd hwnna dipyn o effaith ar fy mherfformiad i.

"O'n i wedi bod yn ymarfer am gwpl o fisoedd, felly oedd hwnna'n help fawr."

Codi arian

Tim Achub Mynydd AberhondduFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Rees yn un o'r gwirfoddolwyr sy'n gweithredu Tîm Achub Mynydd Aberhonddu

Mae Tîm Achub Mynydd Aberhonddu yn wasanaeth brys sydd wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar wirfoddolwyr ac yn cael ei gyllido gan roddion cyhoeddus, ac mae Richard yn un o'r gwirfoddolwyr.

"Mae'n cymryd £65,000 y flwyddyn i redeg Brecon Mountain Rescue, a ni'n hollol wirfoddol.

"Oedd hwn yn gyfle da i godi bach o arian i'r tîm.

"Diolch i bawb wnaeth gefnogi a diolch i bawb, mae Alun a finne wir wedi mwynhau ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth i gyd."

Pynciau cysylltiedig