Lle chwarae i aros nes cael ateb i gwyn unigol dros sŵn

Lle chwarae Parc Hailey, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lle chwarae ger stad o dai ac fe gafodd y ddau eu codi ar yr un pryd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud na fyddan nhw'n cael gwared â lle chwarae mewn parc poblogaidd am y tro.

Roedd yna wrthwynebiad chwyrn i fwriad y cyngor i gael gwared â'r lle chwarae ym Mharc Hailey ar ôl i un person gwyno am sŵn.

Mae'r cyngor nawr yn dweud y bydd yr ardal gemau amlddefnydd (MUGA) yn cael aros hyd nes iddyn nhw ddod o hyd i ddatrysiad addas.

Llain hirsgwar o goncrit yw'r lle chware, gyda goliau metel bob pen a tharged ar gyfer cicio pêl.

Fe gafodd ei godi yr un pryd â stad dai newydd ar Heol Andrews gerllaw.

Yn 2019 fe gwynodd un o drigolion y stad am y sŵn oedd yn dod o'r lle chwarae, ac fe arweiniodd hynny at dynnu'r cylchoedd pêl fasged i lawr.

Ym mis Ionawr dyfarnodd yr Ombwdsmon Gwasnaethu Cyhoeddus nad oedd Cyngor Caerdydd wedi gwneud digon i ddelio gyda'r broblem sŵn a oedd yn achosi "rhwsytredigaeth ac anghyfleustra" i'r achwynydd.

Ymateb y cyngor oedd dweud y bydden nhw'n cael gwared ar y lle chwarae.

'Sioc fod pethau wedi mynd mor bell'

"Dyw gweddill y bobl ar y stryd ddim yn cwyno," dywedodd Paul Rock, trysorydd Cyfeillion Parc Hailey.

"Mae pawb dwi wedi siarad â nhw'n dweud eu bod nhw wedi cael sioc fod pethau wedi mynd mor bell â hyn, ac y gallen ni golli'r lle chwarae yn llwyr.

"Maen ymddangos taw'r ateb hawsaf pob tro yw cael gwared â lle chwarae a'n plant ni sy'n diodde o ganlyniad."

Fe gafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer tai wrth ymyl y parc yn 2003 gan wybod y bydden nhw o fewn 30 metr i le chwarae.

Roedd adroddiad swyddogion cynllunio yn argymell rhoi gwybod i'r asiant na fyddai'r cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am gwynion gan breswylwyr ynglŷn â defnydd o'r lle chwarae yn y dyfodol.

Arwydd ym Mharc Hailey

Mae mab Cerys Ponting yn hoffi chwarae ar y safle gyda'i ffrindiau.

"Does dim lot yn yr ardal 'ma i'r plant - mae hwn yn really ddefnyddiol," meddai.

"Mae plant yn dod yma i chwarae pêl-droed, pêl fasged a reidio beic.

"Dyw e jyst ddim yn deg bod un person yn gallu cael y fath grym a'r effaith maen nhw wedi cael.

"Mae e'n syndod bod ddim modd ystyried barn y gymuned gyfan yn hytrach na barn un person."

Cerys Ponting
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen ystyried barn y gymuned yn ehangach, medd Cerys Ponting

Mae Gruff, sy'n 12, yn un o'r plant sy'n defnyddio'r MUGA.

"Fi'n dod 'ma bron bod dydd gyda ffrindiau ar ôl ysgol," dywedodd.

"Mae'n hwyl achos mae'r bêl yn bownsio ar y concrit. Mae'r gwair yn gallu bod yn fwdlyd."

Mae Owen, 12, hefyd yn taro heibio ar ei ffordd adref o'r ysgol.

"Mae e reit drws nesa' i'r parc chwarae felly mae wastad rhywun yma sy'n gallu ymuno gyda ni i chwarae pêl."

Gruff ac Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gruff ac Owen - dau sy'n mwynhau treulio amser ym Mharc Hailey

Gill Griffin yw cadeirydd y pwyllgor Heddlu a Chymunedau Gyda'n Gilydd (PACT) yn lleol.

"Does dim un cwyn wedi dod mewn gan unrhywun ynglŷn â phlant neu bobl ifanc yn ymddwyn yn anghymdeithasol yma," dywedodd.

"Ni'n anfodlon gydag ymateb yr ombwdsmon. Ni'n trio annog plant i ddod mas i chwarae i ffwrdd o'r iPad a'r teledu."

Rhai o'r bobl mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod y lle chwarae
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mater wedi cael ei drafod yn ddiweddar mewn cyfarfod cyhoeddus

Fe ddechreuodd un cynghorydd lleol, Dilwar Ali, ddeiseb yn nodi nad oedd y penderfyniad i gael gwared ar y lle chwarae yn cyd-fynd ag anghenion a dymuniadau'r gymuned.

Dywedodd y ddeiseb " bod manteision cadw'r adnodd llawer yn fwy nag unrhyw bryder a godwyd", ac fe gafodd ei harwyddo gan dros 1,300 o bobl cyn cael ei chau.

Mae Cyngor Caerdydd nawr yn dweud na fyddan nhw'n cael gwared â'r lle chwarae hyd nes iddyn nhw ddod o hyd i ddatrysiad.

Maen nhw'n dweud eu bod yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer ateb pryderon pobl leol a sicrhau bod cyfleusterau chwarae yn parhau i fod ar gael.

"Fe fydd yna drafodaeth gyda'r gymuned i sicrhau eu bod nhw'n cael dweud eu dweud ar ddyfodol y MUGA," dywedodd llefarydd.

"Fe fyddwn ni'n dod â chynigion gerbron yn yr wythnosau nesaf."

Targed ar gyfer cicio pêl yn y lle chwarae

Dywed Paul Rock nad mater hawdd fyddai symud y lle chwarae.

"Mae'r lle chwarae fel ag y mae e yn berffaith iawn," meddai.

"Mae'n drueni, ar adeg pan does dim arian gan gynghorau, y bydd yn rhaid iddyn nhw wario lot i drio cadw un person yn hapus."

Mae 'na deimladau cryfion yn lleol ac mae pobl Ystum Taf wedi dangos nad chwarae plant fyddai cael gwared â lle chwarae.