Allai sgriniau cyffwrdd brofi fod gan geffylau iselder?

Nicola Davies ym mridfa Maesmynach, un o fridfeydd mwyaf Prydain ar gyfer cobiau Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae ceffylau yn defnyddio sgriniau cyffwrdd fel rhan o waith ymchwil newydd sy'n ceisio canfod a ydyn nhw'n dioddef o iselder.
Fel rhan o'r profion, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn annog ceffylau i gyffwrdd â'r sgriniau gyda'u trwyn i ddewis rhwng dwy ddelwedd.
Maen nhw'n cael eu gwobrwyo â bwyd pan fyddan nhw'n gwneud y dewisiadau cywir.
Gallai'r astudiaeth fod â goblygiadau o ran sut mae ceffylau'n cael eu cadw mewn stablau ac o bosib arwain at wella perfformiad ceffylau elit.

Mae'r profion yn gofyn i geffylau gofio delweddau sydd wedi cael eu gweld yn barod
Dywedodd Dr Sebastian McBride, y prif ymchwilydd, bod "iselder ymddygiadol yn anodd ei ddeall mewn ceffylau".
"Os edrychwch chi ar geffyl mewn stabl â'i ben i lawr, a yw'n gysglyd? A yw'n gorffwys? Neu a yw mewn cyflwr o iselder ymddygiadol?
"Mae'n anodd ei adnabod yn glinigol ac mae'n rhywbeth yr ydyn ni'n gweithio arno fe i wella ein dealltwriaeth."
Beth yw'r profion?
Mae'r ymchwilwyr yn defnyddio dau brawf gwybyddol, sy'n debyg i brofion sy'n cael eu defnyddio gyda phobl.
Yn y prawf cyntaf, mae dwy ddelwedd yn cael eu dangos i'r ceffyl ar sgrin.
Os yw'n cyffwrdd â'r un cywir bydd ymchwilydd yn rhyddhau bwyd fel gwobr.
Yn yr ail brawf, mae un ddelwedd yn cael ei dangos ar y sgrin am rai eiliadau cyn iddi ddiflannu. Yna mae'n ailymddangos ochr yn ochr â thair delwedd arall.
Mae'r ceffyl yn cael gwobr os yw'n cofio'r ddelwedd wreiddiol ac yn ei chyffwrdd ar y sgrin.
Mae'r ymchwilwyr yn gweithio gyda 20 o geffylau yng nghanolfan marchogaeth y brifysgol yn Aberystwyth, ond yn bwriadu ehangu i weithio gyda channoedd o geffylau eraill.

Amcan Dr Sebastian McBride yw gallu datblygu dull o farnu os yw ceffyl yn diodde iselder
Dywedodd Dr McBride fod y gallu i fesur cwsg ceffylau yn gywir ac effaith posib hynny ar eu cyflwr emosiynol yn "hanfodol" i'r ymchwil.
Ond dywedodd y bydd y profion yn helpu rhoi gwell dealltwriaeth i'r ymchwilwyr am iselder posib hefyd.
"Mae 'na lawer o fiofarcwyr o fod yn isel eich ysbryd - newidiadau mewn ymddygiad, newidiadau mewn ffisioleg, newidiadau mewn gwybyddiaeth, a gall y newidiadau hynny ddangos bod yr anifail mewn cyflwr isel," meddai.
'Nabod y ceffyl yw'r allwedd'
Bridfa Maesmynach ger Llanbedr Pont Steffan yw un o'r bridfeydd mwyaf ym Mhrydain ar gyfer cobiau Cymreig.
Mae teulu Nicola Davies wedi'i rhedeg hi ers degawdau, a Nicola ei hun wedi ymwneud â cheffylau ers dros 40 mlynedd.
Dywedodd Nicola bod yr ymchwil yn ddiddorol a bod ceffylau "bendant yn ymateb i'w hamgylchedd".
Ond mae adeiladu perthynas gyda cheffylau yn bwysig hefyd, meddai, er mwyn deall yn well unrhyw newid yn eu tymer a'u hysbryd.

Mae Gwenan Thomas o Lanwnnen wedi gweithio gyda cheffylau trwy gydol ei hoes
"Mae amgylchedd yn gallu golygu llawer o bethau – mae'n gallu bod yn amgylchedd ffisegol o ran y gwellt a'r stabal, ond hefyd mae'r ochr ddynol yn bwysig a does dim byd yn tanseilio stocmon a'r adnabyddiaeth o geffyl," meddai Nicola.
"Chi'n dod i nabod eich ceffyl, a hwnna yw'r allwedd i'r cyfan dwi'n meddwl, adeiladu perthynas ac mae'r ceffyl i raddau yn dweud wrthoch chi."
Ychwanegodd Nicola y bydd yn anodd dweud yn bendant os yw ceffyl yn diodde o iselder.
"Beth fydd yn anodd yw mireinio'r ymchwil i sicrhau beth sy'n achosi [unrhyw anhwylder corfforol] – ife iselder yw e, neu oes rhywbeth arall yn gorfforol yn bod?
"Bydd yr ymchwil o fudd i bobl falle sy'n dod mewn i ofalu am geffylau am y tro cyntaf. Mae unrhyw beth o gymorth ac ry'n ni'n dysgu bob amser o ran y ceffylau."
Mae Gwenan Thomas yn rhedeg Bridfa Talgrwn, gwasanaeth bridio ceffylau yn Llanwnnen ger Llambed.
Does dim amheuaeth, meddai, y gall ceffylau ddioddef o iselder ac y gall gael ei achosi gan wahanol bethau gan gynnwys eu hamgylchedd, cwmni neu ddiffyg cwmni, poen cronig neu straen.
Dywedodd Gwenan: "Mae ceffyl anhapus fel arfer yn golygu perchennog anhapus hefyd.
"Felly mae'n bwysig iawn darganfod pam fod y ceffyl yn isel ei ysbryd a thrin yr achos yn hytrach na'r symptom."