Teulu o Gymru yn 'emosiynol iawn' ar ôl rhyddhau gwystl Israelaidd

Steve Brisley
Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd Steve Brisley gyda BBC Breakfast munudau ar ôl i Eli Sharabi gael ei ryddhau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Ben-y-bont wedi dweud ei fod yn teimlo'r "pendil cyfan o emosiynau" ar ôl i'w frawd-yng-nghyfraith gael ei ryddhau gan Hamas.

Roedd Eli Sharabi, 52, yn un o dri gwystl Israelaidd a gafodd eu rhyddhau yn Gaza fore Sadwrn.

Cafodd ei wraig Lianne Sharabi, 48 o Fryste, a'i merched, Noiya a Yahel, eu lladd gan Hamas yn eu cartref yn Kibbutz Be'eri, Israel, yn ystod yr ymosodiadau ar 7 Hydref, 2023.

Dywedodd Steve Brisley, brawd-yng-nghyfraith Mr Sharabi, ei fod yn teimlo'r "pendil cyfan o emosiynau - llawenydd a rhyddhad, torcalon a phopeth yn y canol" wrth weld o'n cael ei ryddhau ar ôl 16 mis.

O'r chwith i'r dde: Or Levy, Eli Sharabi ac Ohad Ben Ami ar y llwyfan cyn cael eu rhyddhau fore SadwrnFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Or Levy, Eli Sharabi ac Ohad Ben Ami ar y llwyfan cyn cael eu rhyddhau fore Sadwrn

Cael cadarnhad bod ei frawd-yng-nghyfraith yn fyw yw "be ni wedi bod yn gweithio am dros yr 16 mis diwethaf", meddai Mr Brisley, ond ei fod yn "ofnadwy o anodd" i weld o'n "denau iawn gyda'i fochau wedi suddo".

"Mae'r golau wedi mynd o'i lygaid, dyna wnaeth daro adref i fi," meddai wrth BBC Breakfast funudau'n unig ar ôl i Mr Sharabi gael ei ryddhau.

"Dyma ddiwedd un rhan o'r hunllef... Mae hi wedi bod yn 24 awr hynod o emosiynol ers i enw Eli ymddangos ar y rhestr brynhawn ddoe."

Nad yw Mr Brisley'n gwybod os yw Mr Sharabi'n gwybod bod ei wraig a'i dwy ferch wedi marw.

"Mae'n drallodus i feddwl, os nad yw'n gwybod, mai ei gwestiwn cyntaf fydd 'a yw Lianne a'r merched yn aros amdanaf?' A dwi'n cymryd ei fod am dderbyn y newyddion gan rywun mae o newydd gyfarfod."

Gill a Pete Brisley o Ben-y-bont
Disgrifiad o’r llun,

Gill a Pete Brisley o Ben-y-bont

Dywedodd Pete Brisley, tad Lianne, ei fod yn "emosiynol iawn, iawn" wrth wylio'r gwystlon yn cael eu rhyddhau gyda'i wraig Gill yn ne Cymru fore Sadwrn.

"Mae'n wych ei fod o wedi cael ei ryddhau, ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddo edrych fel oedd o, mor denau," meddai Mr Brisley.

"Mae'n edrych fel ei fod newydd ddod allan o wersyll crynhoi."

Lianne gyda'i merched Yahel a Noiya
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lianne a'i dwy ferch, Yahel a Noiya, yn ystod yr ymosodiadau ar 7 Hydref, 2023

Cafodd Mr Sharabi, a hefyd Or Levy ac Ohad Ben Ami, eu rhyddhau wedi'r cadoediad rhwng Hamas ac Israel, a ddaeth i rym ar 19 Ionawr.

Mae'r cytundeb yn gweld cyfanswm o 33 o wystlon 7 Hydref yn cael eu rhyddhau mewn trosglwyddiadau wythnosol gyda 1,900 o Balesteiniaid yn cael eu rhyddhau o garchardai Israel.

Mae Israel yn rhyddhau 183 o garcharorion Palesteinaidd ddydd Sadwrn.

Ar 7 Hydref fe laddodd Hamas tua 1,200 o bobl, gan gymryd 251 o wystlon yn eu hymosodiad ar Israel.

Mae o leiaf 47,500 o Balesteiniaid wedi'u lladd yn ymosodiad Israel, yn ôl gweinidogaeth iechyd Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.

Mae tua dwy ran o dair o adeiladau Gaza wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio gan ymosodiadau Israel, meddai'r Cenhedloedd Unedig.