Gŵyl Gerdd Bangor: 'Yr olwyn yn troi o'r celf i'r gerddoriaeth'

Guto PuwFfynhonnell y llun, Guto Puw
Disgrifiad o’r llun,

Guto Puw

  • Cyhoeddwyd

"Mae'r olwyn yn troi ac yn mynd i'r gwaith celf ac wedyn yn ôl i'r gerddoriaeth."

Yn ystod y cyfnod clo mi wnaeth ddarn o gerddoriaeth gan y cerddor Guto Pryderi Puw ysbrydoli artist o'r enw Chris Holley i greu gwaith celf newydd.

Dyma gychwyn perthynas greadigol lle mae'r ddau wedi creu gwaith sy' wedi ei ysbrydoli gan y llall, fel mae Guto'n esbonio wrth Cymru Fyw.

Meddai Guto, sy'n un o sylfaenwyr Gŵyl Gerdd Bangor: "Yn ystod cyfnod clo ges i ebost allan o 'nunlle gan Chris Holley yn cyflwyno ei hun fel artist abstract oedd wrth ei bodd gyda ngherddoriaeth i ac wedi creu dau ddarlun ar ôl gwrando.

"Roedd rhywun yn teimlo'n wylaidd iawn ac wrth fy modd bod fy ngherddoriaeth i wedi cael gymaint o effaith ar rywun arall.

"Ac oedden ni'n awyddus iawn i gyfansoddi rhywbeth yn ôl iddi hi oherwydd bod hi wedi cael yr ysbrydoliaeth o nghelf i, sef fy ngherddoriaeth. 'Nes i benderfynu gyfansoddi darn wedi ei ysbrydoli gan Scherzo 1, 2 a 3 sy' ganddi hi fel bod yr olwyn mwy neu lai yn troi rownd."

Guto a Chris Holley gyda'r darlun Scherzo IIIFfynhonnell y llun, Guto Puw
Disgrifiad o’r llun,

Guto a Chris Holley gyda'r darlun Scherzo III

Yn ôl yr artist Chris Holley, cafodd ei swyno gan y gerddoriaeth o'r enw A Different Light, a'i hysbrydolodd i greu dau ddarlun a'u hanfon nhw ar e-bost i Guto yn ddiweddarach.

Bydd y darluniau'n rhan o Music and the Muse, sef arddangosfa o 28 o weithiau celf yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio o Ionawr 27 tan ddiwedd yr Ŵyl ar Chwefror 16.

Yr artist Chris Holley gyda gwaith celf A Different LightFfynhonnell y llun, Guto Puw
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Chris Holley gyda'i gwaith celf A Different Light

Meddai Guto am y lluniau mae Chris Holley eisoes wedi eu creu ar ôl cael ysbrydoliaeth o'i gerddoriaeth: "Mae'r darluniau mae hi wedi eu greu o A Different light yn anhygoel.

"Maen nhw'n hollol wahanol i beth fydden i wedi dychmygu – ei dehongliad hi o'r gerddoriaeth yw o.

"Mae o'n rhyw fath o dawelu rhywun – ac oeddwn i'n meddwl bod o'n codi'r holl broses i rhyw lefel uwch bod y gwahanol gelfyddydau yn ysbrydoli'r celfyddydau eraill a bod 'na rhyngweithio a medru cyfuno'r ddau.

"Dyna'r elfen uchaf o gydweithio."

Sefydlodd Guto, sy'n ddarllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yr ŵyl yn 2000 fel platfform ar gyfer cerddoriaeth gyfoes a dros y blynyddoedd mae wedi cynnwys cyfanswm o 225 premiere byd.

Eleni, wrth i'r ŵyl ddathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, bydd perfformiad cerddorol o gyfansoddiad Guto ac ochr yn ochr gyda'r perfformiad bydd Chris Holley yn darlunio gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan y gerddoriaeth yn fyw.

Meddai Guto: "Dyna ni'n mynd i greu yn y gyngerdd yma, bod o'n brofiad gweledol a chlywedol a bod y ddau yn toddi i'w gilydd falle."

Guto PuwFfynhonnell y llun, Guto Puw

O ran yr ŵyl yn dathlu 25 mlynedd, dywedodd Guto: "Mae rhywun yn reit falch bod hi dal i fynd. Mae yr un sialens bob blwyddyn i feddwl pa gerddoriaeth i gael.

"Mae'n rhyw broblem fach ond mae rhywun yn edrych ymlaen i neud o – er bod o'n lot o waith ar ben popeth arall.

"Ond pan mae'r gerddoriaeth yn cael ei pherfformio a'r gerddoriaeth o safon mae rhywun yn gwerthfawrogi'r holl ymdrech ac yn sylweddoli, dyna pam 'da ni'n neud o – 'da ni'n rhoi cerddoriaeth newydd, ychydig yn wahanol i Fangor ac i Gymru gyfan."

Mae'r ŵyl eleni yn digwydd o ddydd Gwener, 14 Chwefror, tan ddydd Sul, Chwefror 16 ac yn cynnwys perfformiadau gan Cerys Hafana ar y delyn deires, y dawnswyr arbrofol Hedydd/VDKL i gerddoriaeth gan Eädyth Crawford, Sinfonia Cymru yn ogystal â Electroacwstig Cymru a'r soprano Deborah Norin.

Pynciau cysylltiedig