Gwenni y ci: Seren Instagram a TikTok

Carys, Gwenni a SeanFfynhonnell y llun, Sean a Carys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Carys, Gwenni a Sean

  • Cyhoeddwyd

Pan mae pobl yn clywed am ddylanwadwr Instagram a TikTok o'r enw Gwenni o Cross Hands, prin fod y rheiny yn gwybod mai ci yw hi.

Cocker Spaniel yw Gwenni sy'n ymddangos mewn fideos ar ei chyfrif sy'n cael ei redeg gan ei pherchnogion, Sean a Carys Davies.

Mae gan yr ast 212,000 o ddilynwyr ar Instagram, a dros 230,000 ar TikTok.

Ar TikTok, mae 6.6 miliwn o bobl yn hoffi ei chyfrif.

Mae'r fideos yn dangos hi'n perfformio nifer o driciau ufudd-dod.

Rhwng y ddau gyfrif felly, mae bron i hanner miliwn o bobl yn mwynhau fideos amrywiol Gwenni, ac mae ambell i berson enwog hefyd wedi dangos eu gwerthfawrogiad.

Dywedodd Sean ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru: "Mae wedi mynd bach yn crazy dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw'n (y ffigyrau) mynd lan drwy'r amser, dibynnu faint o content rydyn ni yn greu."

GwenniFfynhonnell y llun, Sean a Carys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenni wedi serennu mewn sawl hysbyseb teledu

Yn ôl Sean, doedd poblogrwydd Gwenni ddim yn fwriadol.

"Doedd hyn ddim yn fwriadol o gwbwl. Roedd o'n purely accidental i ddweud y gwir.

"Pan getho ni Gwenni i ddechrau netho ni ddechrau rhoi cwpwl o fideos ar TikTok yn gyntaf i gael rhyw fath o library o fideos o Gwenni pan oedd hi'n pup bach, aeth hi'n crazy o fan'no.

"Fe aeth rhai o'r fideos yn viral wedyn, gyda un o'r fideos wedi cael 15 miliwn o views a wedyn nath e adeiladu o fan'no," meddai.

Un peth sy'n sefyll allan am Gwenni yw sut mae hi'n gwrando ar pob gair mae Sean a Carys yn dweud wrthi.

Pan gafodd y ddau Gwenni yn gi bach wyth wythnos oed, fe aethon nhw ati i'w hyfforddi yn syth.

Er fod Sean wedi tyfu i fyny gyda chwn Springer Spaniels a Carys gyda Golden Retrievers, mae Sean wedi dysgu ei hun sut i fynd ati i hyfforddi cwn.

"Ry'n ni wedi dysgu hi i wrando ers mae hi'n wyth wythnos oed, i wrando ar fi ac mae perthynas wych gyda ni ble mae hi'n gwrando ac mae hi'n gwneud y tricks hyn sy'n edrych yn sbri ar y camera.

"Ond dim jest tricks ry'n ni'n gwneud. Ry'n ni'n gweithio'n galed ar roi outlet i Gwenni achos mae hi'n frîd working Cocker Spaniel, mae eisiau digon o ffocws arni hi i wneud gwaith, a swydd i Gwenni yw i ddilyn instructions a mynd i hela a sniffo pethe mas o'r gwair.

"Mae'r tricks yn edrych yn ciwt ar y channel ond mae pwrpas iddyn nhw hefyd i roi outlet i Gwenni i'r egni sydd gyda hi," meddai.

Disgrifiad,

Gwenni'r ci yn perfformio triciau

O ran yr enwogion sydd yn ei dilyn hi, maen nhw'n amrywio o DJ Radio 1 Greg James, y model Katie Price, David Beckham a'r Tywysog William a'r Dywysoges Kate Middleton.

Un agwedd arall o'r fideos yw hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Meddai Sean: "Fi a Carys yn siarad Cymraeg, felly roedd hi'n gwneud synnwyr i mi siarad Cymraeg gyda Gwenni.

"Mae'r comments ni'n gweld ar y fideos yn bwerus iawn pan mae pobl yn gofyn pa iaith y'n ni'n siarad ac rydym yn falch iawn o ddweud ein bod yn Gymraeg."

Greg James, Katie Price a'r Tywysog William a'r Dywysoges Kate Middleton
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ddilynwyr enwog Gwenni, o'r chwith Greg James, Katie Price a'r Tywysog William a'r Dywysoges Kate Middleton

Erbyn hyn mae Gwenni wedi cyrraedd y sgrîn fawr ac yn gwneud hysbysebion teledu ac yn serennu mewn ambell i ddarn ffilm amrywiol.

Mae Sean ei hun yn cyfaddef ei fod yn falch iawn o ymddygiad Gwenni pan ar set, ac mae'n gobeithio y bydd mwy o waith tebyg yn y dyfodol.

Ond am y tro, mae Gwenni am barhau i gynhyrchu'r fideos poblogaidd ac mae Sean a Carys am barhau i ddysgu triciau newydd iddi.