Teulu o Gymru yn galaru wedi ymosodiad Hamas
- Cyhoeddwyd
![Yahel, Lianne a Noiya](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1310E/production/_131449087_yahelliannenoiya.png)
Roedd cannoedd o bobl yn angladd Yahel, Lianne a Noiya, medd eu teulu
Mae nain a thaid o Ben-y-bont wedi dweud bod eu merch a'u hwyresau wedi cael eu canfod yn "dal yn ei gilydd" ar ôl cael eu lladd yn sgil ymosodiadau Hamas.
Fe gafodd Lianne Sharabi, 48 o Fryste, a'i merched eu lladd gan Hamas yn eu cartref yn Kibbutz Be'eri, Israel, ar 7 Hydref.
Roedd Lianne yn "fam gariadus" a "geisiodd diogelu ei merched tan y diwedd un," yn ôl ei rhieni Gill a Pete Brisley.
"Roedd Lianne yn gwneud beth fyddai mam yn ei wneud - dal ei phlant yn ei breichiau."
Roedd Mr a Mrs Brisley yn siarad â'r BBC am eu merch a'u hwyresau Noiya a Yahel ychydig ddyddiau wedi eu hangladd.
"Rydyn ni wedi colli ein merched prydferth," medd Mrs Brisley.
Gwylio angladd dros Whatsapp
Gan ddisgrifio Lianne fel person "hyfryd," fe ddywedodd Mrs Brisley fod Israel fel arfer yn "gyfeillgar iawn" ac yn "le arbennig i fagu teulu".
"O dan amgylchiadau arferol, eu hardal nhw oedd y lle mwya' diogel i fagu plant: meithrinfeydd, ysgolion arbennig, roedden nhw'n 'nabod pawb."
![Gill a Pete Brisley](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17345/production/_131554059_brisley.jpg)
Roedd Lianne yn fam arbennig, medd Gill a Pete Brisley o Ben-y-bont
Yn 19 oed, fe symudodd Lianne o Fryste i Israel er mwyn gweithio mewn kibbutz - cymuned lle mae pobl yn byw ac yn gweithio gyda'i gilydd.
Fe arhosodd Lianne yno a chael dwy o ferched: Yahel, 13, a Noiya, 16.
"Roedden nhw'n wyresau hyfryd a phrydferth," medd Mrs Brisley.
Gan nad oedd modd teithio i Israel, bu'n rhaid i Mr a Mrs Brisley ffarwelio â'r merched drwy wylio fideo o'r angladdau ar Whatsapp.
"Roedd cannoedd o bobl yno. Roedden nhw'n deulu poblogaidd iawn, roedd pawb yn caru'r merched.
"Ry'n ni wedi colli pob teimlad... gallwn ni ddim newid y sefyllfa. Rhaid i ni fyw trwy'r peth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023