Wyddoch chi...? Gwreiddiau Cymreig y modurwr, Charles Rolls

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Charles Rolls gyda cheirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Rolls yn 1898

Mae ceir Rolls Royce yn cael eu hystyried yn un o'r pethau mwyaf Seisnig erioed.

Ond wyddoch chi fod gan un o sylfaenwyr y cwmni, Charles Royce, wreiddiau Cymreig?

Charles RollsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Rolls

Cafodd Charles ei eni yn Llundain ar 27 Awst 1877, yn fab i Farwn 1af Llangadwg a'r Farwnes Llangadwg, ond treuliodd lawer o'i blentyndod yng nghartref y teulu yn Sir Fynwy, sef Yr Hendre. Roedd ei dad yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Fynwy.

Roedd yn seiclwr brwd yn yr ysgol a'r brifysgol yng Nghaergrawnt, ond buan y datblygodd ddiddordeb mewn peiriannau a moduro.

Yn 18 oed yn 1896, teithiodd i Paris i brynu ei gar cyntaf, sef Peugeot Phaeton am £225. Hwn oedd un o'r tri char cyntaf yng Nghymru.

Dechreuodd brynu mwy a mwy o geir, a'u rasio mewn rasys ceir ym Mhrydain ac Ewrop. Cyd-sefydlodd Automobile Club of Great Britain ac roedd yn ymgyrchu i godi'r cyfyngiadau ar gerbydau modur.

Charles yn ei gar cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles yn ei gar cyntaf - yn ôl y gyfraith, roedd rhaid i ddyn gerdded o flaen y cerbyd gyda baner

Yn 1903, sefydlodd un o'r cwmnïau gwerthu ceir cyntaf ym Mhrydain, C. S. Rolls & Co., a oedd yn mewnforio a gwerthu ceir o Ffrainc a Gwlad Belg.

Y flwyddyn wedyn, aeth i mewn i fusnes gyda'r peiriannydd a'r gwneuthurwr ceir Henry Royce, a dyma ddechrau ar y cwmni Rolls-Royce, enw ddaeth yn adnabyddus ar draws y byd.

Ynghyd â'i ddiddordeb mewn ceir, roedd hefyd yn arloesi mewn hedfan, mewn amser pan oedd y diwydiant yn un newydd ac anghyfarwydd. Hedfanodd mewn balŵn 170 o weithiau gan gynnwys yn ras falŵn ryngwladol Gordon Bennet yn 1906, pan enillodd y fedal aur am yr hediad hiraf.

Yn 1909, mae cofnod ohono yn hedfan ei fam adref mewn balŵn o Drefynwy i'w cartref, gan arddangos i'r cyhoedd beth oedd yn bosib.

Charles Rolls mewn balŵnFfynhonnell y llun, Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson
Disgrifiad o’r llun,

Charles Rolls mewn balŵn yn Nhrefynwy yn 1908

Roedd ganddo hefyd ddiddordeb mewn awyrennau, a oedd yn dechnoleg oedd wrthi'n cael ei datblygu. Ef oedd yr ail Brydeiniwr i hedfan mewn awyren, pan aeth ar hediad gyda Wilbur Wright yn Ffrainc, a barodd am bedwar munud, 20 eiliad.

Ym Mehefin 1910, Charles Rolls oedd y person cyntaf i hedfan yn ôl ac ymlaen dros Fôr y Sianel, heb stop.

Roedd Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i godi cerflun i Charles am y gamp yma, ond ychydig dros fis yn ddiweddarach, cafodd ei ladd mewn damwain awyren yn Bournemouth ar 12 Gorffennaf 1910 yn 32 oed.

Ef oedd y Prydeiniwr cyntaf i farw mewn damwain awyr mewn cerbyd wedi ei bweru.

Llun o'r ddamwain lle cafodd Charles Rolls ei laddFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r ddamwain lle cafodd Charles Rolls ei ladd, o'r papur newydd Illustrated London News

Cafodd ei gladdu yn mynwent Eglwys Sant Cadog yn Llangatwg Feibion Afel yn Sir Fynwy, ac mae'r cerflun iddo ar Sgwâr Agincourt, Trefynwy wedi ei godi er cof am ei holl lwyddiannau.

Y cerflun yn NhrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cerflun o Charles Rolls yn Nhrefynwy

Geirfa

sylfaenwyr / founders

Aelod Seneddol Ceidwadol / Conservative Member of Parliament

brwd / keen

moduro / motoring

cyd-sefydlodd / co-established

ymgyrchu / to campaign

cyfyngiadau / restrictions

cerbydau / vehicles

mewnforio / import

gwneuthurwr / manufacturer

adnabyddus / well-known

arloesi / to pioneer

diwydiant / industry

anghyfarwydd / unfamiliar

ryngwladol / international

hediad / flight

arddangos / display

awyddus / keen

cerflun / statue

camp / feat

damwain / accident

pweru / powered

mynwent / cemetery

llwyddiannau / accomplishments

Pynciau cysylltiedig