Teulu Cymreig yr arweinydd cwlt, Jim Jones
- Cyhoeddwyd
Y Parchedig Jim Jones yw un o ffigyrau drwg-enwog amlycaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn arwain cwlt o'r enw The Peoples Temple rhwng 1955 a 1978, gyda'i ddilynwyr yn ei addoli fel rhyw fath o dduw.
Ffurfiodd Jones gymuned iddo'i hun a'i ddilynwyr yn Gaiana yn Ne America, a'i enwi'n Jonestown. Ym mis Tachwedd 1978 bu farw 909 o aelodau'r Peoples Temple yno dan orchymyn Jim Jones, mewn digwyddiad a oedd yn gymysgedd o lofruddiaeth a hunanladdiad.
Cafodd Jim Jones ei eni'n nhalaith Indiana, ond mae'n debyg fod ei gyndeidiau'n dod o ganolbarth Cymru.
Pwy oedd Jim Jones?
Ganwyd James Warren Jones ar 13 Mai, 1931, ym mhentref Crete, mewn ardal wledig o dalaith Indiana.
Cafodd ei fagu o fewn y ffydd Gristnogol, a phan oedd yn fachgen roedd eisiau bod yn weinidog Pentecostaidd.
Ond erbyn 1955 roedd wedi symud i ffwrdd o Gristnogaeth gonfensiynol ac fe sefydlodd fudiad The Peoples Temple yn Indianapolis - cwlt a oedd yn cyfuno elfennau o Gristnogaeth â Chomiwnyddiaeth, ac ambell i syniadaeth arall.
Rhwng 1976 a 1977 roedd Jones yn gadeirydd ar gomisiwn awdurdod tai dinas San Francisco - penodwyd i'r rôl gan faer y ddinas ar y pryd, George Moscone, a gafodd ei lofruddio yn 1978.
Roedd Jones yn pregethu am heddwch rhwng hiliau gwahanol, a oedd yn syniad blaengar iawn yn y 1950au a'r 1960au cynnar. O ganlyniad i hyn roedd ganddo nifer o ddilynwyr o'r cymunedau du. Yn 1977 fe enillodd wobr Martin Luther King am ei waith yn annog harmoni rhwng pobl gwyn a du yn San Francisco.
Roedd y ddelwedd o Jones ar y pryd fel dyn moesol a charedig yn dra gwahanol i sut mae'n cael ei gofio heddiw; fel dyn creulon a narsisistaidd a oedd yn gyfrifol am farwolaeth bron i 1,000 o bobl.
Honnai Jones fod gan ei eglwys 20,000 o aelodau, ond mae haneswyr bellach yn credu fod y gwir niferoedd dipyn yn is.
Ehangodd y cwlt i California a mannau eraill o'r UDA. Yna daeth y penderfyniad i arwyddo cytundeb i rentu tir yn Gaiana, yn Ne America, yn 1974, gyda'r bwriad o sefydlu safle amaethyddol, hunangynhaliol.
Jonestown
Roedd dipyn o ddirgelwch ynglŷn â beth yn union oedd yn digwydd yn Jonestown, yn rhannol am fod y safle wedi ei amgylchynu gan ffens enfawr a choed y jyngl.
Ym mis Tachwedd 1978 fe benderfynodd Cyngreswr o California, Leo Ryan, deithio i Gaiana i weld dros ei hun beth oedd yn digwydd yno, gan fod cannoedd o Americanwyr bellach yn byw yno ac roedd wedi clywed straeon o drais a chamymddwyn.
Roedd honiadau bod yr eglwys yn annog aelodau i roi eu holl eiddo iddynt, ac roedd straeon o guro, poenydio a chyflyru.
Roedd ymddygiad Jones ei hun hefyd yn cael ei gwestiynu; yn ogystal â'i wraig Marcelina, roedd ganddo sawl cariad arall yn Jonestown, fel Carolyn Moore Layton a Maria Katsaris.
Cyrhaeddodd Leo Ryan brifddinas Gaiana, Georgetown, ar 15 Tachwedd, 1978, a thridiau yn ddiweddarach fe aeth i Jonestown i gyfweld â Jones a rhai o'i ddilynwyr.
Pan oedd Ryan am adael fe erfynodd rhai o'r dilynwyr i Ryan fynd â nhw nôl i'r Unol Daleithiau gydag ef, ac fe drefnodd Ryan fod dwy awyren yn gadael Glanfa Kaituma, rhyw 24 milltir o Jonestown.
Clywodd Jim Jones am y cynllun i ddianc ac fe yrrodd ddynion arfog i'r maes awyr fechan. Dechreuodd aelodau o'r cwlt saethu ar yr awyren ac fe ymosododd un o'r rhai a oedd ar yr awyren ar y teithwyr gan ladd pump, yn cynnwys Leo Ryan a thri newyddiadurwr.
Ni adawodd yr awyrennau ond roedd Jim Jones yn gwybod fod llofruddiaeth Cyngreswr o America am ddenu sylw.
Dros 900 yn marw
Yn dilyn llofruddiaeth Ryan fe orchmynnodd Jones i aelodau o'r cwlt ladd eu hunain, gan ei alw'n 'hunanladdiad chwyldroadol'.
Fe ddosbarthodd Jones Kool-aid (diod ffrwyth yn debyg i squash) i'w ddilynwyr, a oedd hefyd yn cynnwys cyanide, valium, a nifer o dawelyddion. Fe yfodd nifer o'r aelodau'r diod o'u gwirfodd, ond mae'n debyg fod rhai eraill oedd ddim yn gwybod eu bod yn yfed gwenwyn.
Cafodd y babannod eu lladd yn gyntaf, drwy eu chwistrellu gyda'r gwenwyn, ac yna'r oedolion. O'r 909 fu farw roedd 300 yn 17 neu iau, ac fe laddwyd yr anifeiliaid yno hefyd, gan gynnwys y cŵn a'r cathod.
Yn dilyn parodrwydd cannoedd o aelodau i yfed y gwenwyn daw'r dywediad "Drinking the Kool-Aid" - sy'n dynodi bod rhywun yn credu mewn syniad cwltaidd i'r eithaf.
O'r 1,005 a oedd yn byw yn Jonestown fe oroesodd llai na 100 - roedd rhain yn cynnwys aelodau a oedd digwydd bod allan yn Georgetown y diwrnod hwnnw, neu eraill a oedd wedi penderfynu ceisio dianc.
Cafodd corff Jim Jones ei ddarganfod ymysg y meirw; mae'n debyg ei fod wedi saethu ei hun. Lladdwyd gwraig Jim, Marcelina, drwy yfed y ddiod wenwynig, yn ogystal â'i gariadon, Carolyn Moore Layton a Maria Katsaris.
Gwreiddiau yn y canolbarth
Ond beth yw'r cysylltiad Cymreig?
Ganwyd Thomas Jones yn Sir Drefaldwyn ar 22 Ionawr, 1730. Fe briododd Thomas ag Elinor Evans (1735-1798) o Raeadr Gwy, Sir Faesyfed. Rhain oedd hen, hen, hen, hen daid a nain Jim Jones.
Penderfynodd Thomas ac Elinor ymfudo i America am fywyd gwell gan symud i Culpeper yn Virginia, rhyw 70 milltir i'r de-orllewin o Washington DC. Roedd Trefedigaeth Virginia'n fan poblogaidd i'r Cymry a oedd yn symud i America ar y pryd.
Yno ganwyd 13 o blant - 10 o feibion a thair o ferched. Ymysg y 10 o feibion oedd John Jones (1755-1838), sef hen, hen, hen daid Jim Jones.
Mae'n debyg mai'r John Jones yma oedd y cyntaf o'r teulu i gael ei eni yn America, ond yn ôl y sôn fe ddaeth yn arwr Americanaidd i rai. Roedd yn ysbïwr dros Drefedigaeth Virginia, ac fe ymladdodd ym Mrwydr Point Pleasant yn erbyn milwyr o lwythi'r brodorion, y Shawnee a'r Mingo. Roedd yn ymladd o dan y milwr nodedig Capten Matthew Arbuckle Sr.
Yn hwyrach yn ei fywyd roedd yn ffermio tir ar yr Afon Kanawha, ac roedd ei ffydd Gristnogol yn bwysig iddo - roedd yn Fedyddiwr, fel y mwyafrif yn yr ardal yna yn y cyfnod.
Wedi dyddiau John Jones yr ysbïwr a milwr daeth cenedlaethau o ffermwyr ac amaethwyr.
Cafodd hen, hen daid Jim Jones (Edmund Jones) ei eni yn Kanawha, Virginia, ond yna fe symudodd y teulu i Indiana. Ganwyd Warren M. Jones yn Indiana yn 1825, ac yna taid Jim Jones (John Henry Jones) yn y dalaith yn 1848.
Yn 1887 ganwyd James Thurman Jones, tad Jim, yn Indiana. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd anafiadau difrifol yn sgil ymosodiad â chemegau ac roedd yn dioddef o broblemau anadlu am weddill ei oes.
Yn ôl yr hanes fe gafodd Jim Jones blentyndod anodd, gyda'i rieni yn ffraeo yn aml iawn, ac fe gafodd ei anwybyddu yn gyson gyda phobl o bentref cyfagos Lynn yn bwydo a rhoi dillad am Jim a oedd yn crwydro'r strydoedd ar ben ei hun.
Cafodd Jim Jones o leiaf naw o blant, gyda rhai wedi eu mabwysiadau. Cafodd tri eu lladd ar y diwrnod ofnadwy yna yn Jonestown yn 1978.
Mae stori'r teulu yma dros bum cenhedlaeth yn mynd o hanes amaethwyr o ganolbarth Cymru i arweinydd cwlt byd-enwog yn yr Unol Daleithiau; hanes hynod ddiddorol, ond a drodd yn stori o drasiedi erchyll.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Ionawr